Category: 

smalltalk - haf 2020

smalltalk ... yn cefnogi'r sector blynyddoedd cynnar yng Nghymru am dros 30 mlynedd.

Cyhoeddwyd bob chwarter ers gwanwyn 1986, a'i bostio am ddim i holl aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru. smalltalk yw'r teitl y mae'n rhaid ei ddarllen ar gyfer darparwyr addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

P'un a ydych chi'n chwilio am syniadau i'w gweithredu yn y lleoliad neu i'ch helpu gyda'ch hyfforddiant a'ch datblygiad, am gael y wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau cwricwlwm neu'r newidiadau diweddaraf mewn deddfwriaeth, mae ein cylchgrawn 28 dudalen lliw llawn, yn llawn dop o erthyglau i'ch ysbrydoli i wreiddio a llywio ymarfer o ansawdd uchel, wrth barhau i redeg busnes llwyddiannus.

Croeso i'r rhifyn Cymraeg cyntaf erioed o smalltalk!

Ni fydd neb ohonom yn anghytuno fod yr ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn anodd - mae hyd yn oed y mwyaf optimistaidd ohonom wedi brwydro ar adegau i aros yn bositif pan nad oes ond och, gwae a galar ar y newyddion.

Wrth gwrs, mae wedi bod yn ddifrifol, ni fydd ein bywydau byth yr un fath eto ac mae’n rhaid i ni ddysgu sut i ofalu amdanom ni ein hunain a’n hanwyliaid, ond waeth i ni heb â bod â’n pen yn ein plu, ddaw dim da o hynny.

Felly, i arall eirio Tracy Nevitt o Marford Little Explorers yn ein stori glawr (tudalen 5) gadewch i ni feddwl meddyliau melys unwaith eto.......

Heb os, daw’r ‘normal newydd’ â ffyrdd newydd o wneud pethau a bydd yn rhaid i ni fod yn arloesol yn ein bywyd bob dydd.

Mae’r lleoliadau sydd yn ein herthygl astudiaethau achos y llinell flaen Gofal Plant eisoes yn gwneud hynny. Ar ôl gorfod addasu’n gyflym i ffyrdd newydd o weithio yn ystod Covid-19, maen nhw eisoes yn gweld cymaint o newidiadau positif yn y ffyrdd mae plant yn dysgu a datblygu.

Gallwch chi lawrlwytho'r astudiaethau achos yn llawn yma

Ni fydd neb ohonom yn anghytuno fod yr ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn anodd - mae hyd yn oed y mwyaf optimistaidd ohonom wedi brwydro ar adegau i aros yn bositif pan nad oes ond och, gwae a galar ar y newyddion.

Wrth gwrs, mae wedi bod yn ddifrifol, ni fydd ein bywydau byth yr un fath eto ac mae’n rhaid i ni ddysgu sut i ofalu amdanom ni ein hunain a’n hanwyliaid, ond waeth i ni heb â bod â’n pen yn ein plu, ddaw dim da o hynny.

Felly, i arall eirio Tracy Nevitt o Marford Little Explorers yn ein stori glawr (tudalen 5) gadewch i ni feddwl meddyliau melys unwaith eto.......

Heb os, daw’r ‘normal newydd’ â ffyrdd newydd o wneud pethau a bydd yn rhaid i ni fod yn arloesol yn ein bywyd bob dydd.

Mae’r lleoliadau sydd yn ein herthygl astudiaethau achos y llinell flaen Gofal Plant eisoes yn gwneud hynny. Ar ôl gorfod addasu’n gyflym i ffyrdd newydd o weithio yn ystod Covid-19, maen nhw eisoes yn gweld cymaint o newidiadau positif yn y ffyrdd mae plant yn dysgu a datblygu.

I ni yn Blynyddoedd Cynnar Cymru, er mai’r norm newydd yw ein bod wedi, ac yn dal, i weithio o gartref, dydyn ni ddim wedi bod yn llaesu dwylo chwaith. Ydych chi wedi cael sbec ar ein gwefan newydd eto?

Fe allwch chi newid eich data eich hunan, postio hysbysebion am swyddi gwag a gweld y cynnwys unigryw i aelodau.

....ac nid dyna’r cyfan. Mae hyd yn oed smalltalk wedi mynd yn ddigidol! Gan fod pob rhifyn yn canolbwyntio ar sut y gallwn ni ddarparu cyfleoedd dysgu creadigol wedi’u cefnogi a’u strwythuro i blant 0 – 5 oed, fe fydden ni wrth ein bodd pe byddech chi’n ei rannu gyda’ch staff a’ch teuluoedd hefyd.

Dyw’r rhifyn hwn ddim yn eithriad, mae ein Cyfnod Sylfaen: Pwnc Trafod (tudalen 20) yn canolbwyntio ar lefaredd, ac i gyd-fynd â hynny, ar dudalen 17, rydyn ni wedi gwahodd Booktrust Cymru i drafod eu rhaglen Pori Drwy Stori a sut y mae hefyd yn cefnogi datblygu sgiliau iaith Cymraeg a Saesneg ein plant yn y Cyfnod Sylfaen. Rydyn ni hefyd yn falch o allu cyflwyno’r diweddaraf ar ein rhaglen aml sgiliau 4 wythnos Cymru’n Actif Gyda’n Gilydd (tudalen 11) sydd wedi’i datblygu gan gadw rhieni a babanod mewn cof.

Fe fydden ni wrth ein bodd yn clywed beth ydych chi’n feddwl.

Na, wnaethom ni ddim rhedeg allan o inc ar gyfer y clawr! Bydd y rhan fwyaf ohonoch naill ai wedi gweld neu wedi lledaenu eich negeseuon o obaith eich hunain drwy osod lluniau lliwgar o'r enfys yn eich ffenestri. Ymunwch â ni wrth gymryd rhan yn #rainbowartprojectwales – fe hoffen ni greu cofnod parhaus o’r gobaith a’r positifrwydd rydych chi, eich staff, plant a’u teuluoedd wedi’i deimlo yn ystod y cyfnod clo – bydd popeth yn cael ei ddatgelu ar dudalen 15.

Ar y nodyn hwnnw, fe hoffwn i ategu geiriau Dave Goodger, Cyfarwyddwr Blynyddoedd Cynnar Cymru ar dudalen 5 a dweud diolch yn fawr iawn i bob un ohonoch am bopeth rydych wedi’i wneud i gefnogi’r sector blynyddoedd cynnar yn ddiweddar. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddathlu’ch gwaith caled yn ein Gwobrau Blynyddoedd Cynnar Cymru yn 2021 (gweler tudalen 4).

tu mewn

4. Bydd hon yn noson i’w chofio....

Newyddion cyffrous am ddathlu Gwobrau Blynyddoedd Cynnar Cymru oedd wedi’u gohirio.

5. Gofal plant ar y llinell flaen – eich hanesion

Lleoliadau aelodau’n rhannu gyda ni sut maen nhw wedi goresgyn yr heriau oedd yn eu hwynebu wrth aros ar agor yn ystod Covid-19, ond hefyd y llawer o bethau positif sydd wedi codi.

11. Hau’r hadau

Cyflwyniad i raglen Cymru’n Actif gyda’i Gilydd - yn cefnogi oedolion i ddatblygiad eu plentyn yn gorfforol o enedigaeth.

14. Mae’n hawdd codi arian gydag easyfundraising

Gyda gwreiddiau aelodau ein tîm easyfundraising yn ddwfn mewn codi arian cymunedol, dyma eu hawgrymiadau gorau ar sut i godi arian ar gyfer eich lleoliad.

15. Cystadleuaeth y clawr

Cymerwch ran yn #rainbowartprojectwales

16. Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau’r cenedlaethau i ddod?

Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n chwilio am Ymddiriedolwyr newydd i gryfhau ac i amrywio’u Bwrdd presennol.

17. Pori Drwy Stori: Llefaredd, darllen a rhigymau

Mae BookTrust Cymru’n cefnogi datblygu sgiliau iaith Cymraeg a Saesneg plant yn y Cyfnod Sylfaen.

20. Y Cyfnod Sylfaen: Pwnc Trafod - Llefaredd

Rydym yn trafod sut mae llefaredd plant yn cael ei ddatblygu mewn dau leoliad aelodau a sut mae pyped syml yn gallu bod yn gyfryngwr da.

23. Symud Plant yn Ddiogel

Mae cludo plant yn ddiogel yn gyfrifoldeb na ddylid byth cael ei gymryd yn ysgafn. Mae Michelle Harrington, Rheolwr Diogelwch y Ffordd Cymdeithas Frenhinol Atal Damweiniau i Gymru, yn edrych ar sut i’w cadw’n ddiogel wrth eu cludo.

26. Ansawdd i Bawb

Enillwch y gydnabyddiaeth rydych a’ch staff yn ei haeddu.
 


Aelodau: peidiwch ag anghofio mewngofnodi cyn ychwanegu eitemau at eich cart i ddefnyddio eich gostyngiad aelod. I gofrestru fel aelod ewch i'n tudalen aelodaeth.

£1.00