Category:
smalltalk - gaeaf 2021 / gwanwyn 2022
smalltalk ... yn cefnogi'r sector blynyddoedd cynnar yng Nghymru am dros 30 mlynedd.
Cyhoeddwyd bob chwarter ers gwanwyn 1986, a'i bostio am ddim i holl aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru. smalltalk yw'r teitl y mae'n rhaid ei ddarllen ar gyfer darparwyr addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
P'un a ydych chi'n chwilio am syniadau i'w gweithredu yn y lleoliad neu i'ch helpu gyda'ch hyfforddiant a'ch datblygiad, am gael y wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau cwricwlwm neu'r newidiadau diweddaraf mewn deddfwriaeth, mae ein cylchgrawn 64-dudalen, cwbl ddwyieithog, lliw llawn, yn llawn dop o erthyglau i'ch ysbrydoli i wreiddio a llywio ymarfer o ansawdd uchel, wrth barhau i redeg busnes llwyddiannus.
Croeso i rifyn yr gaeaf 2021 / gwanwyn 2022 o smalltalk
Yn y mater hwn edrychwn ar bŵer y gymuned a'r rôl sydd gan gymunedau o ran sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd drwy ennyn ymdeimlad o berthyn a balchder.
Nid oes dim yn dweud cymuned fel arwyr di-glod ein sector – y gwirfoddolwyr. Anadl einioes sefydliadau gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru - cyn covid amcangyfrifir bod gan wirfoddolwyr werth amcangyfrifedig o £1.7 biliwn. Mae ein stori gyflenwi yn nodwedd 8 tudalen sy'n canolbwyntio'n gyfan gwbl ar wirfoddoli rydym yn ystyried pam mae pobl yn gwirfoddoli, yr ystod o gyfleoedd sydd ar gael a pha wahaniaeth y gallai gwirfoddoli ei wneud yn eich lleoliadau. Rydym yn dathlu gwaith y gwirfoddolwyr a'r grwpiau gwirfoddol sydd wedi cael eu cydnabod yn ein gwobrau blynyddol am eu hangerdd a'u hymroddiad.
Darllenwch ymlaen, i gael blas o beth arall sydd y tu mewn
4. Canolbwynt ar... Gwirfoddoli
Ydych chi wedi manteisio ar botensial gwirfoddoli? Darllenwch i ddarganfod y gwahaniaeth y gallai ei wneud i’ch lleoliad chi.
5. Bwndeli o lawenydd!
Ar ôl iddi ymddeol yn ddiweddar, rydym yn dathlu gwaith Pat Moreton – Gwirfoddolwr y Flwyddyn Blynyddoedd Cynnar Cymru 2020.
6. Gwirfoddoli, llesiant a Blynyddoedd Cynnar
Cyn Wythnos Gwirfoddolwyr ym mis Mehefin, mae Fiona Liddell o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru’n dangos i ni sut y gallai cofrestru gyda’ch cyngor gwirfoddol lleol fod yn amhrisiadwy.
8. Adeiladu ar gyfer dyfodol gwell
Sut mae angerdd aelodau un pwyllgor dros godi arian wedi arwain at adeilad newydd sbon.
10. Gwerth bod yn ymddiriedolwr
Mae gan ymddiriedolwyr Grŵp Chwarae Gresfordd agwedd ymarferol iawn pan mae’n dod i’r gefnogaeth maen nhw’n ei roi i’w lleoliad.
11. Pa fath o berson sy’n gwneud ymddiriedolwr da?
Arweiniad oddi wrth y Comisiwn Elusennau ar swyddogaethau a chyfrifoldebau ymddiriedolwr a beth sydd ynddo i chi!
12. Y Gusan Nos Da Olaf
Trychineb a ysbrydolodd un gwarchodwr a’i lleoliad i godi arian ar gyfer diffibriliwr calon. Mae hi’n rhannu ei stori ac rydyn ni’n rhannu’r ystadegau.
15. easyfundraising
Sut y gallai’ch cefnogwyr ennill rhoddion am ddim ar gyfer eich lleoliad a hynny o gysur eu cartrefi eu hunain.
16. Datblygiad Proffesiynol Parhaus: Datblygu gweithlu dwyieithog.
Asesu sgiliau ieithyddol eich gweithlu yw’r cam positif cyntaf y gallwch ei gymryd tuag at ddarparu Cynnig Actif. Rydym yn eich arwain trwy’r teclynnau sydd ar gael i’ch helpu chi.
19. Digon o adnoddau ar gyfer chwarae
Mae Chwarae Cymru’n ein gwahodd i fyd hudolus chwarae rhannau rhydd.
22. Sut mae chwarae rhannau rhydd yn cefnogi datblygiad plant yn ein lleoliad?
Mae jync rhywun arall erbyn hyn yn drysor un feithrinfa!
24. Y Cyfnod Sylfaen: Pwnc Trafod. Chwarae mentrus yn yr awyr agored a datblygiad sgema yn y blynyddoedd cynnar (rhan dau)
Y pwysigrwydd o adnabod a meithrin sgemâu plant.
28. Toddle Waddle; y manteision o redeg fel teulu
Rydych wedi clywed am Soffa i 5K, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n dod â Toddle Waddle i chi. Cwrs pedair wythnos newydd sbon i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf a gwella lleisiant corfforol a meddyliol teuluoedd.
30. NSPCC - Stopio Cosbi Corfforol yng Nghymru
Ychydig ar ôl troad y ganrif, dechreuodd yr NSPCC ymgyrchu dros roi’r un amddiffyniad i blant rhag ymosodiad corfforol ag i oedolion. O’r diwedd mae’r gyfraith yn newid ac rydym yn clywed pam fod hynni’n bwysig.
32. Cynnig Gofal Plant i Gymro – Diweddariad ar y Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol Newydd
Mae amseriadau’r cyflwyniad wedi newid. Mae gan Lywodraeth Cymru wybodaeth bwysig ar beth mae hynni’n ei olygu i ddarparwyr, manteision y gwasanaeth a sut i gael mynediad at hyfforddiant os ydych angen gwella’ch sgiliau digidol.
Aelodau: peidiwch ag anghofio mewngofnodi cyn ychwanegu eitemau at eich cart i ddefnyddio eich gostyngiad aelod. I gofrestru fel aelod ewch i'n tudalen aelodaeth.