Category:
Pecyn Adnoddau i Gyflogwyr - I Aelodau’n Unig (Sampl)




Mae Pecyn Adnoddau i Gyflogwyr Blynyddoedd Cynnar Cymru wedi’i ddiweddaru a'i wella i gefnogi aelodau gyda:
- Recriwtio
- Gwerthuso a Datblygu Proffesiynol Parhaus
- Profiad gwaith i fyfyrwyr a gwirfoddolwyr
Mae pob pecyn yn cynnwys canllawiau a ffurflenni enghreifftiol y gellir eu llawr lwytho i’ch arwain trwy’r prosesau y bydd yn rhaid i chi eu dilyn i ddiogelu’r plant yn eich gofal, eich sefydliad a'ch staff.
Dim ond i aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru y mae’r pecynnau hyn ar gael*. Llawr lwythwch y samplau isod ac yna edrychwch ar ein tudalen aelodau i weld rhestr lawn o fuddion aelodaeth.
Yn cael eu cynnwys yn y pecynnau sydd ar gael ar wahân neu fel pecyn cyflawn:
Recriwtio (£8)
Dylai pob cyflogwr, mewn busnes preifat, sefydliadau gwirfoddol neu elusennau cofrestredig, ddatblygu proses recriwtio a dewis gadarn.
Mae’r canlynol i’w cael yn y pecyn hwn:
- Rhestr wirio ffeiliau staff
- Llythyr eglurhaol, ffurflen gais a llythyr monitro recriwtio
- Gweithdrefn recriwtio
- Cadarnhad o hawl i weithio yn y DU a gwiriad adnabyddiaeth
- Ffurflen gofyn am eirda
- Datganiad iechyd
- Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i unigolion
- Cofnodion grŵp y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
- Rhestr wirio sefydlu staff
- Gwerthusiad cyfnod prawf
- Ffurflen cyfweliad dychwelyd i’r gwaith
Gwerthuso a Datblygu Proffesiyonol Parhaus (£6)
Mae pob ymarferydd, yn llawn neu’n rhan amser, gwirfoddolwyr, prentisiaid neu fyfyrwyr ar leoliad, angen eu harolygu a’u gwerthuso. Mae’n broses sydd â strwythur, sy’n cynnwys goruchwylio a gwerthuso, a hefyd raglenni ar gyfer datblygiad proffesiynol, ac sy’n chwarae rhan arwyddocaol mewn cadw staff, llesiant staff ac ansawdd y ddarpariaeth.
Mae’r ffurflenni canlynol yn rhan o’r pecyn hwn:
- Nodiadau cyfarfod cefnogi / goruchwylio
- Gwerthuso a datblygu perfformiad
- Cofnodion hyfforddi staff
- Cofnodion datblygu proffesiynol parhaus
Profiad Gwaith a Myfyrwyr (£4)
Ffurflenni eraill a allai fod yn ddefnyddiol os oes gennych fyfyrwyr a gwirfoddolwyr
- Cofnodion myfyrwyr / gwirfoddolwyr
- Profiad gwaith gwirfoddolwyr
Eisoes yn aelod? Mewn gofnodwch i fynd at y pecynnau. I fynd at eich cyfrif y tro cyntaf, does ond rhaid gofyn am gyfrinair.
*Nid yw Pecyn Adnoddau Cyflogwyr yn cael ei gynnwys gydag aelodaeth. Rhestrir y costau ychwanegol uchod.