Mae gan blant ysfa naturiol i wneud yr un pethau drosodd a throsodd, taflu pethau, cuddio pethau dros y tŷ mewn bagiau neu wagio’r holl deganau o’r bocs. Yr ymddygiad ail adroddus hwn sy’n helpu plant i ddatblygu a dyfnhau eu dealltwriaeth o gydsyniadau.
Mae sgemâu’n cysylltu’n uniongyrchol â sut y mae’r ymennydd ifanc yn datblygu ac yn tyfu. Wrth i blant ail adrodd eu gweithredoedd maen nhw’n gwneud cysylltiadau pwysig yn eu hymennydd, sy’n eu helpu i addasu neu i newid eu ffyrdd. Mae hynny’n elfen hanfodol bwysig yn natblygiad a dysgu plant ifanc.
Mae Rhieni, Ymarferwyr, a gofalwyr yn gallu cefnogi plant trwy ddeall sgemâu a thrwy annog plant i chwarae a dysgu mewn ffordd sy’n cysylltu â diddordebau sgematig y plentyn.
Mae gwybod am sgemâu’n gallu eich helpu i ddisgrifio’n fanylach y ffyrdd y mae plentyn yn mynd ati i ddysgu. Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth honno i’ch helpu i ddeall ymddygiad plentyn.

Os hoffech chi ddysgu mwy am sut y gallwch chi adnabod sgema plentyn a beth yw enw'r sgemâu amrywiol. Gall aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru lawrlwytho copi AM DDIM.
Yn syml, mewngofnodwch i'ch cyfrif aelodau trwy: https://www.earlyyears.wales/cy/shop
Mae aelodaeth Blynyddoedd Cynnar Cymru AM DDIM ar hyn o bryd! Edrychwch ar ein tudalen aelodaeth am restr lawn o fuddion aelodaeth.