BLOG: Sgemâu

O enedigaeth, mae plant yn ail adrodd eu  gweithredoedd a’u hymddygiad (sgema). Er enghraifft, mae gafael, codi, sugno, rhoi yn y geg, chwifio a dyrnu i gyd yn sgemâu cynnar.

Daw’r dyfyniad canlynol o’r llyfr Schemas, a ysgrifennwyd gan Stella Louis, arbenigwraig ar y blynyddoedd cynnar, ac a ariannwyd ar gyfer print dwyieithog gan Blynyddoedd Cynnar Cymru yn 2019.

Young child using trajectory schema

Mae gan blant ysfa naturiol i wneud yr un pethau drosodd a throsodd, taflu pethau, cuddio pethau dros y tŷ mewn bagiau neu wagio’r holl deganau o’r bocs. Yr ymddygiad ail adroddus hwn sy’n helpu plant i ddatblygu a dyfnhau eu dealltwriaeth o gydsyniadau.

Mae sgemâu’n cysylltu’n uniongyrchol â sut y mae’r ymennydd ifanc yn datblygu ac yn tyfu. Wrth i blant ail adrodd eu gweithredoedd maen nhw’n gwneud cysylltiadau pwysig yn eu hymennydd, sy’n eu helpu i addasu neu i newid eu ffyrdd. Mae hynny’n elfen hanfodol bwysig yn natblygiad a dysgu plant ifanc.

Mae Rhieni, Ymarferwyr, a gofalwyr yn gallu cefnogi plant trwy ddeall sgemâu a thrwy annog plant i chwarae a dysgu mewn ffordd sy’n cysylltu â diddordebau sgematig y plentyn.

Mae gwybod am sgemâu’n gallu eich helpu i ddisgrifio’n fanylach y ffyrdd y mae plentyn yn mynd ati i ddysgu. Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth honno i’ch helpu i ddeall ymddygiad plentyn.

Schemas book front cover

Os hoffech chi ddysgu mwy am sut y gallwch chi adnabod sgema plentyn a beth yw enw'r sgemâu amrywiol. Gall aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru lawrlwytho copi AM DDIM.

Yn syml, mewngofnodwch i'ch cyfrif aelodau trwy: https://www.earlyyears.wales/cy/shop

Mae aelodaeth Blynyddoedd Cynnar Cymru AM DDIM ar hyn o bryd! Edrychwch ar ein tudalen aelodaeth am restr lawn o fuddion aelodaeth.

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)