
Fel y sefydliad ymbarél arbenigol arweiniol yng Nghymru, credwn y dylai rhieni a gweithwyr proffesiynol sy'n magu ac yn gofalu am blant ifanc fod wrth wraidd llunio polisïau a'u cefnogi i sicrhau bod plant yng Nghymru yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein haelodau drwy rannu gwybodaeth a darparu arweiniad. Rydym yn cefnogi ein haelodau i ddarparu rhaglenni ymyrraeth gynnar a gwasanaethau teuluol. Rydym yn darparu cefnogaeth o ansawdd uchel i aelodau, gan gynnwys cymorth busnes cyffredinol a phwrpasol, cynllun sicrhau ansawdd mewnol, datblygiad proffesiynol helaeth a rhaglenni dysgu, a chynrychioli llais ein haelodau mewn trafodaethau polisi gyda Llywodraeth Cymru.
Rydym yn cynnig aelodaeth i amrywiaeth eang o ddarparwyr gofal plant ac unigolion yn y blynyddoedd cynnar.
| Cost | |
| Darparwr gofal plant neu Ysgol | £80 |
| Safle ychwanegol | £45 |
| Gofal Plant yn y Cartref | £30 |
| Grŵp Ti a Fi | £30 |
| Sylfaenol neu Rhiant | £10 |
| Myfyriwr* | Am ddim |
*angen cyfeiriad e-bost academaidd
| Atodiad | Maint |
|---|---|
| 6.12 MB |
2025/2026
GOFRESTRU (Saesneg) heddiw a chael mynediad at amrywiaeth eang o gefnogaeth, hyfforddiant ac adnoddau a ddatblygwyd ar gyfer aelodau yn unig.
Bydd yr holl aelodaeth yn dod i ben ar 31 Mawrth 2026.

