Y gyfraith ynglŷn â’r gofynion di-fwg: arwydd 'Dim Ysmygu' y gellir ei lawrlwytho

Ar 1 Mawrth, mae'r gyfraith yn ymwneud â ble caiff pobl ysmygu yn newid. Bydd hyn yn golygu y bydd raid i diroedd ysbytai, tiroedd ysgolion a meysydd chwarae cyhoeddus, yn ogystal â lleoliadau gofal dydd a gwarchod plant yn yr awyr agored fod yn ddi-fwg. Bydd ysmygu mewn ardal ddi-fwg yn drosedd a gallai unrhyw un sy'n cael ei ddal yn torri'r gyfraith gael dirwy o £100.

Y gyfraith ynglŷn â’r gofynion di-fwg: arwydd 'Dim Ysmygu' y gellir ei lawrlwytho

"Lleoliadau gofal awyr agored i blant" yw ardaloedd awyr agored mewn safleoedd sydd wedi'u cofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, ac sy’n darparu gofal dydd neu wasanaeth gwarchod ar gyfer plentyn neu blant o dan 12 oed. Dim ond pan fydd y safle'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gofal dydd neu warchod plant y mae'n ofynnol i'r mannau awyr agored hyn fod yn ddi-fwg. Yn achos gwarchodwyr plant sy'n darparu gofal yn eu cartref, mae'n ofynnol i fannau awyr agored y cartref fod yn ddi-fwg pan fydd un neu ragor o’r plant yn yr ardal awyr agored. Mae'r ddeddfwriaeth yn cynnwys dyletswydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r rheolwr neu'r gwarchodwr plant sy'n gyfrifol am y lleoliad gymryd camau rhesymol i atal ysmygu yno. Nid oes raid arddangos arwyddion 'Dim Ysmygu' mewn lleoliadau gofal awyr agored i blant. Er hynny, gall rheolwyr a gwarchodwyr plant arddangos arwyddion 'Dim Ysmygu' yn eu hardaloedd awyr agored os ydynt yn dymuno gwneud hynny ac rydym wedi cyhoeddi templed yma: https://llyw.cymru/gwaharddiad-ar-smygu-arwydd-dim-smygu-ar-gyfer-mangreoedd

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n ofynnol, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau yma: https://gov.wales/smoke-free-law-guidance-changes-march-2021-html#section-58231.

If there are any questions on the introduction of the legislation or its requirements, please contact the tobacco policy team on [email protected]

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd https://www.earlyyears.wales/en/news/smoke-free-law-guidance-changes-mar...

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)