Sut allwch chi gefnogi eich plentyn gyda llythrennedd yn y cartref?

Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru yn ymateb i ffigurau a ryddhawyd gan yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Cenedlaethol (NLT), gan nodi bod gostyngiad cyffredinol wedi bod ers 2019 yn y gefnogaeth rhieni i lythrennedd plant yn y cartref.

Adult and child smiling at each other while reading a book

Mae ffigyrau allweddol o ymchwil yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Cenedlaethol  yn nodi "dywedodd 4 o bob 5 (78.1%) o rieni eu bod wedi sgwrsio â'u plentyn o leiaf unwaith y dydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf, gostyngiad o 12.2 pwynt canran (pp) o'i gymharu â 2019, pan ddywedodd 9 o bob 10 (90.3%) eu bod wedi gwneud hyn". 

Ymhellach, "1 o bob 2 (56.0%) rhieni (...) wedi chwarae gyda'u plentyn o leiaf unwaith y dydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Mae hyn yn cymharu â 3 o bob 4 (76.2%) a nododd eu bod yn chwarae gyda'u plentyn yn ddyddiol yn 2019". Dywedodd "1 o bob 2 (50.5%) rhiant eu bod wedi darllen gyda'u plentyn yn ddyddiol yn 2024" o'i gymharu â 66.1% yn 2019.

Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru yn pryderu am y dirywiad a amlinellir yn yr ymchwil hon o ran darllen, ond hefyd mewn cyfleoedd rhyngweithiol eraill fel chwarae a sgwrsio. Mae'r rhyngweithiadau hyn rhwng y plentyn a'r gofalwr yn hanfodol yn natblygiad plentyn, gan wella dysgu a dealltwriaeth o iaith, a naws mynegiant yr wyneb. Mae cyfradd y datblygiad yn y blynyddoedd cynnar yn golygu bod y cyfathrebu hwn yn bwerus ac yn para'n hir.

Rydym yn deall bod pwysau a gofynion gwaith, yn ogystal ag ymyrraeth o ddyfeisiau digidol fel ffonau clyfar a thabledi yn cael effaith ar ryngweithio plant a rhoddwyr gofal. Fodd bynnag, yn Blynyddoedd Cynnar Cymru, hoffem helpu rhieni i ddeall gwerth y rhyngweithio hyn â'u plentyn.

Mae ein hyfforddiant Actif ein hunain yn canoli'r defnydd o straeon, caneuon a rhigymau i annog symudiad a gyflawnir trwy gefnogaeth gweithio gyda BookTrust Cymru, a'n Camwch i'r Gymraeg drwy Chwarae, Symud a Straeon mewn partneriaeth â Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yw helpu teuluoedd sy'n dysgu Cymraeg i gymryd rhan mewn dysgu chwareus fel oedolyn a phlentyn gyda'i gilydd

"Mae unrhyw amser a dreulir yn siarad, chwarae, darllen a chanu yn hynod bwysig. Rydych nid yn unig yn helpu gydag iaith, ond yn adeiladu'r sylfeini ar gyfer eu dysgu yn y dyfodol; a does dim byd gwell na mwynhau stori, neu sgwrsio gyda phlentyn. Os ydych chi erioed wedi gwneud hyn, rydych chi'n gwybod y gall eu safbwyntiau a'u sgyrsiau unigryw fod yn uchafbwynt diwrnod prysur i oedolion."

- Prif Weithredwr Blynyddoedd Cynnar Cymru, David Goodger

Page contents