Yn ystod y broses ymgynghori, gweithiodd Blynyddoedd Cynnar Cymru yn helaeth i rannu llais ein haelodau gan gynnal tri chyfle i rannu eich barn gyda ni, ac ymateb i'r ymgynghoriad fel sefydliad ar ran y sector blynyddoedd cynnar.
Rydym yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi bwrw ymlaen â rhai o'r newidiadau cadarnhaol a gynigir, er enghraifft, croesawu'r camau cefnogol i ailystyried uwchrifedd.
Mae'n gadarnhaol gweld Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i ddiogelu peth o'r amser gweinyddol i reolwyr ochr yn ochr â dull mwy ymarferol o asesu risg o gynnwys rheolwyr yn y gymhareb lleoliadau yn hytrach na bod mewn uwchrifedd ar gyfer y diwrnod llawn. Dylai hyn helpu cefnogi lleoliadau gyda chostau staffio a darparu'r gallu i leoliadau ymateb yn hyblyg i anghenion staffio.
Rydym hefyd yn falch o weld, ochr yn ochr ag eglurder y gofynion Cymorth Cyntaf, mae'r cymarebau o staff sy'n gweithio tuag at gymwysterau yn cael eu hystyried ar gyfer nifer staff, a'r diweddariadau i'r mesurau diogelu, mae yna broses raddol synhwyrol o'r newidiadau i ganiatáu i'r sector gofal plant gynllunio a gweithio tuag at y safonau newydd diweddaredig.
Er mwyn helpu i gefnogi'r gwaith o weithredu'r safonau diogelu, Mae gan Flynyddoedd Cynnar Cymru gyfres o hyfforddiant ar gael i ddiwallu anghenion categorïau A, B, a C sy'n rhedeg o fis Mehefin hyd at fis Mawrth 2024. Cysylltwch â Julie Powell 07399 697641 [email protected] i gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau a'r dyddiadau.
- Dave Goodger
Prif Swyddog Gweithredol
Blynyddoedd Cynnar Cymru
Gallwch ddod o hyd i'r datganiad gweinidogol llawn a'r dolenni i'r newidiadau pwysig yma.
Os hoffech unrhyw gymorth i'ch helpu i ddeall beth mae'r newidiadau yn ei olygu i'ch lleoliad, neu i'ch helpu i gynllunio ar gyfer gweithredu'r newidiadau, cysylltwch â staff rhanbarthol neu dîm Prif Swyddfa Blynyddoedd Cynnar Cymru.
Blynyddoedd Cynnar Cymru