Gyda'r gefnogaeth arfaethedig i'w hadolygu wedi 6 mis, ac opsiwn i ymestyn cefnogaeth i "fusnesau bregus", mae yna groeso i hyn cyn belled ag y mae'n mynd.
Dywedodd y Prif Weithredwr, Dave Goodger, 'Byddai Blynyddoed Cynnar Cymru yn hoffi gweld sector y blynyddoedd cynnar yn cael ei ddiogelu drwy'r cyfnod hwn o gynnydd heriol mewn prisiau.
Does dim amau fod y sector, ers y cyfnod clo Covid-19 cyntaf, wedi wynebu mwy o bwysau ariannol a nifer o heriau parhad busnesau.
Gyda chostau cynyddol, cynnydd cyfyngedig yng nghyllid y Llywodraeth, a heb ddymuno trosglwyddo cynnydd graddol mewn ffioedd rhieni, rydym yn pryderu am ansicrwydd statws y sector gofal plant a'u costau biliau cyfleustodau ymhen 3 neu 6 mis. Rydym yn credu y byddai ymestyn mesurau amddiffyn biliau yn unol â'r llinell amser ar gyfer diogelu biliau cyfleustodau cartrefi (tan 2024) yn gam cefnogol gan Lywodraeth San Steffan.
Byddai'r lefel hon o gefnogaeth i'r sector gofal plant yn dangos cefnogaeth Lywodraethol i fusnesau ac elusennau gofal plant a blynyddoedd cynnar; sector sy'n darparu gwasanaethau hanfodol i blant ac sy'n cefnogi'r economi ehangach drwy helpu rhieni sy'n gweithio gyda'u hanghenion gofal plant.'