Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru yn dathlu ymroddiad i'r cyflog byw go iawn

Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru wedi achredu fel cyflogwr Cyflog Byw heddiw.

Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn isod.

living_wage_foundation_logo
a hard days work deserves a fair days pay

Datganiad i’r Wasg

7fed Mai 2021

MAE BLYNYDDOEDD CYNNAR CYMRU YN DATHLU YMRODDIAD I’R CYFLOG BYW GO IAWN

Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru wedi achredu fel cyflogwr Cyflog Byw heddiw. Bydd ein hymroddiad cyflog byw yn gweld pawb sy’n gweithio i Blynyddoedd Cynnar Cymru yn ennill cyflog fesul awr o £9.50 y lleiaf yn y DU neu £10.85 yn Llundain. Mae’r ddwy raddfa yn uwch nag isafswm y llywodraeth i bobl dros 23, sy’n £8.91 ar hyn o bryd.

Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru yn cael ei sefydlu yng Nghymru, rhanbarth gydag un o’r cyfranneddau mwyaf o swyddi sy ddim yn talu’r cyflog byw yn y DU (21%) gyda thua 241,000 o swyddi yn talu llai na’r cyflog byw. Er gwaethaf hynny, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru wedi gwneud ymroddiad i dalu’r cyflog byw a darparu cyflog teg i ddiwrnod am ddiwrnod caled o waith.

Y Cyflog Byw go iawn yw’r unig raddfa dâl sy’n cael ei gyfrifo gan gostau byw. Mae’n darparu meincnod gwirfoddol i gyflogwyr sydd eisiau sicrhau bod eu staff yn ennill cyflog eu bod nhw’n gallu byw arno, nid isafswm y llywodraeth yn unig. Ers 2011, mae’r mudiad cyflog byw wedi rhoi codiad cyflog i dros 230,000 o bobl ac wedi rhoi dros £1 biliwn ychwanegol mewn i bocedi gweithwyr ar gyflog isel.

Rydym yn cydnabod proffesiynoldeb yr holl gydweithwyr yng Blynyddoedd Cynnar Cymru ac wedi penderfynu ymrwymo i sicrhau bod pawb a gyflogwn yn derbyn Cyflog Byw Go Iawn nawr ac yn y dyfodol. Mae'r sector blynyddoedd cynnar wedi cael ei ystyried yn sector lle mae'r cyflog yn isel. Rydym yn eiriol dros i'r holl staff sy'n gweithio gyda phlant yn eu blynyddoedd ffurfiannol dderbyn y tâl a'r gydnabyddiaeth sy'n haeddiannol am rôl mor freintiedig a phwysig ym mywyd y plentyn. Mae ein hymrwymiad yn ddatganiad ein bod yn credu mewn tâl diwrnod gonest am ddiwrnod o waith.

Dave Goodger - Prif Swyddog Gweithredol

Meddai Katherine Chapman, Cyfarwyddwr, Sefydliad Cyflog Byw: “Rydyn ni wrth ein modd bod Blynyddoedd Cynnar Cymru wedi ymuno’r mudiad o dros 7000 o gyflogwyr ar draws y DU. Maen nhw wedi gwneud ymroddiad gwirfoddol i fynd ymhellach nag isafswm y llywodraeth i sicrhau bod eu staff yn ennill digon i fyw.”

“Maen nhw’n ymuno â miloedd o fusnesau bychain ochr yn ochr ag enwau cyfarwydd fel Burberry, Barclays, clybiau pêl droed Chelsea ac Everton, Lush a llawer mwy. Mae’r busnesau hynny yn cydnabod bod talu cyflog byw go iawn yn nod cyflogwr cyfrifol ac maen nhw fel Blynyddoedd Cynnar Cymru yn credu bod diwrnod caled o waith yn haeddu diwrnod teg o gyflog.”

DIWEDD

 

Cyswllt y Cyfryngau

Charlotte Davies

Cydlynydd Cyfathrebu a Marchnata

E-bost: [email protected]

 

Nodau i’r golygydd

Cefndir i’r Cyflog Byw

Y Cyflog Byw go iawn yw’r unig raddfa dâl sy’n cael ei gyfrifo yn ôl costau byw. Mae’n darparu meincnod gwirfoddol i gyflogwyr sydd yn dewis i sefyll yn gadarn a sicrhau bod eu staff yn ennill cyflog sy’n cwrdd â chostau byw a phwysau pob dydd.

Ar hyn o bryd, cyflog byw Y DU yw £9.50 yr awr. Mae graddfa arall i Lundain o £10.85 yr awr i adlewyrchu costau byw uwch gan gynnwys trafnidiaeth, gofal plant a chartrefi yn y brifddinas. Mae’r ffigurau hynny yn cael eu cyfrifo yn flynyddol gan y Sefydliad Resolution ac yn cael ei oruchwylio gan y Comisiwn Cyflog Byw, seliwyd ar y dystiolaeth gorau sydd ar gael ar safonau byw yn Llundain ac yn y DU.

Y Sefydliad Cyflog Byw yw’r sefydliad yng nghanol y mudiad o fusnesau, sefydliadau ac unigolion sydd yn ymgyrchu dros y syniad syml bod diwrnod caled o waith yn haeddu cyflog teg am y diwrnod. Mae’r Sefydliad Cyflog Byw yn derbyn cyngor ac arweiniad oddi wrth y Cyngor Ymgynghorol Cyflog Byw. Mae’r Sefydliad yn cael ei gefnogi gan ein prif bartneriaid: Aviva; IKEA; Sefydliad Joseph Rowntree; KPMG; Linklaters; Nationwide; Nestle; Sefydliad Resolution; Oxfam; Trust for London; People’s Health Trust; a Queen Mary University of London.

Beth am Gyflog Byw Cenedlaethol y Llywodraeth?

Ym mis Gorffennaf 2015, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys y byddai llywodraeth y DU yn cyflwyno ‘cyflog byw cenedlaethol’ gorfodol. Roedd raddfa newydd y llywodraeth yn isafswm cyflog newydd i staff dros 25oed. Cafodd ei gyflwyno ym mis Ebrill 2016 ac mae raddfa £8.91 ym mis Ebrill 2021 ac yn cynnwys pobl dros 23. Mae’r raddfa yn wahanol i’r cyflog byw cyfrifwyd gan y Sefydliad Cyflog Byw. Mae graddfa'r llywodraeth yn cael ei selio ar enillion canolrif ond mae graddfeydd Sefydliad Cyflog byw yn cael ei gyfrifo yn ôl i gostau byw yn Llundain a’r DU.

Page contents

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)