Bydd Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn llywio arferion diogelu ar gyfer pawb sy’n cael eu cyflogi yn y sector statudol, y trydydd sector (gwirfoddol) a phreifat ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, yr heddlu, cyfiawnder a gwasanaethau eraill.
Maent yn berthnasol i bob ymarferydd a rheolwr sy’n gweithio yng Nghymru – boed yn gyflogedig gan asiantaeth ddatganoledig neu un heb ei datganoli, ac yn gyflogedig â thâl neu heb dâl.
Yn unigryw, ni fydd unrhyw gopi argraffedig o’r gweithdrefnau. Yn hytrach, byddant ar gael i bawb ar-lein, naill ai trwy wefan neu app symudol Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Mae app Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar gael i’w lawrlwytho nawr ar Siop Appiau Apple a Siop Google Play. Gellir hefyd eu gweld yn Gymraeg yn www.diogelu.cymru ac yn Saesneg yn www.safeguarding.wales.
FAQs:
Dadlwythiadau
Atodiad | Maint |
---|---|
Cwestiynau Cyffredin am Weithdrefnau Diogelu Cymru | 181.1 KB |