Cwrs ar-lein un diwrnod o hyd yw'r cwrs Cyflwyniad i Ofal Plant sy'n darparu trosolwg o waith y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae'n cyflwyno meysydd craidd y sector ac wedi'i anelu at bobl sydd heb wybodaeth na phrofiad blaenorol o weithio yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant. Nid yw'r rhaglen wedi'i hachredu ond mae'n cynnwys rhai o feysydd Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer blynyddoedd cynnar a gofal plant, gan ddarparu'r cam cyntaf tuag at ennill gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o weithio yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Byddai'r cynllun treial gwaith yn helpu unigolion sydd wedi cwblhau'r rhaglen Cyflwyniad i Ofal Plant gael cyfle i gael lleoliad gwaith. Byddent yn cael profiad gwerthfawr a dealltwriaeth o weithio yn y sector neu gael cynnig cyfweliad gyda chyflogwr.
Nod y lleoliad gwaith yw cyflymu'r broses recriwtio, fel bod pobl yn gallu dechrau gweithio'n gynt a rhoi mantais iddyn nhw dros bobl eraill sy'n ymgeisio am yr un swyddi.
Byddai hefyd yn helpu cyflogwyr recriwtio'r pobl cywir sydd wir â diddordeb mewn gweithio yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Bydd cyflogwyr sy'n dymuno bod yn rhan o'r cynllun yn cael eu gosod ar restr cyflogwyr. Bydd y tîm Cyflwyniad i Ofal Plant yna'n helpu cyfeirio pobl sydd wedi cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus at y rhestr.
Gallwch fynegi'ch diddordeb ac ymuno â'r rhaglen yma.
Mae croeso i chi gysylltu gyda Gofal Cymdeithasol Cymru os hoffech fwy o wybodaeth neu drafod y cynllun ymhellach.