Eich crynodeb o newyddion, straeon nodwedd a chanllawiau blynyddoedd cynnar: 22 Chwefror – 6 Mawrth 2020

Cewch weld yma ychydig o newyddion a’r diweddaraf o’r sector a hefyd yr hyn sydd wedi denu ein llygaid yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf…

Children with blocks

Yn gyntaf oll, rydyn ni WEDI SYMUD!

Ar ôl mwy na degawd yn ein Pencadlys ym Mae Caerdydd rydyn ni wedi symud i le newydd a fydd yn ein cymryd i ran nesaf o’n taith.

Gallwch ein canfod yn:

Uned I, Iard Cooper, Heol Curran, Caerdydd, CF10 5NB

(dim ond dafliad carreg o Orsaf Ganolog Caerdydd)

Coronafeirws (2019-nCoV)

Cynghorir pob lleoliad gofal plant a chwarae yng Nghymru i dalu sylw i’r canllawiau sydd wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch y Coronafeirws, COVIC-19.  Maen nhw hefyd yn cynnwys Cwestiynau a Ofynnir yn Aml defnyddiol a allai ateb unrhyw bryderon sydd gennych.

Mae’r canllawiau ar wefan Llywodraeth Cymru yma.

Gallwch gyflwyno cofrestriadau darparwyr gofal plant a chwarae i’r Arolygiaeth trwy AGC Ar-lein!

Nid yw Arolygiaeth Gofal Cymru’n derbyn ceisiadau ar bapur o 28 Chwefror 2020.  Os ydych eisoes wedi dechrau cais papur, efallai y bydd o werth ail ddechrau ar AGC Ar-lein.

Mae popeth rydych angen ei wybod ar gael ar wefan yr Arolygiaeth yma.

Welsh Active

Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru a Gymnasteg Cymru wedi sefydlu partneriaeth i ddarparu prosiect Blynyddoedd Cynnar Actif Cymru i blant 0 – 5 mlwydd oed ledled Cymru.

Erbyn hyn mae ein tudalennau ar gyfryngau cymdeithasol Blynyddoedd Cynnar Cymru’n fyw ac yn swyddogol! Dilynwch ni ar ein taith trwy’r prosiect cyffrous newydd hwn sy’n cynnwys…

Cymru’n Actif Gyda’n Gilydd – Rhaglen o 4 wythnos o weithgareddau aml sgiliau symud a chwarae, ar gyfer oedolion a phlant mewn lleoliadau ac yn yr awyr agored mewn 12 cymuned ar draws Cymru

 Babi Actif a Chi – y rhaglen llythrennedd corfforol newydd ar gyfer plant 0 – 3 oed i’w darparu fel rhan o’r hyfforddiant presennol Chwarae i Ddysgu ar gyfer ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant. Gwaith Chwarae a Gymnasteg.

Facebook: https://www.facebook.com/WelshActive

Twitter: https://twitter.com/WelshActive

Instagram: https://www.instagram.com/welshactive/

Yn galw holl ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant, Gwaith Chwarae a Gymnasteg….

Mae DAU weithdy Chwarae i Ddysgu – Babi Actif a Chi ychwanegol newydd eu cyhoeddi

Caerdydd – 14/03/2020
Caerfyrddin – 28/03/2020

Drwy’r hyfforddiant hwn cewch y sgiliau a’r wybodaeth i allu ffrydio gweithgareddau a negeseuon iechyd a llesiant i’r plant yn eich gofal. Cewch weld hefyd sut i gefnogi rhieni trwy 4 wythnos o chwarae aml sgiliau.

.

QfA Logo

Llongyfarchiadau i …

 Busy Bees yn BICC (Dechrau’n Deg), Torfaen
 Grŵp Chwarae Dechrau’n Deg, Camau Cyntaf, Trelai, Caerdydd
 Grŵp Chwarae Dechrau’n Deg, Camau Cyntaf, Windsor Clive, Caerdydd
 Little Angels (Glan yr Afon), Caerdydd
 Meithrinfa Two Counties, Torfaen

…sydd wedi llwyddo i gyrraedd ein Cynllun Sicrwydd Ansawdd, Ansawdd i Bawb y misoedd diwethaf.  Rydyn ni’n falch o’ch llwyddiant.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth ynghylch Ansawdd i Bawb neu os hoffech chi gymryd rhan, ewch ar ein gwefan yma.

Easyfundraising

Helo Taliadau!

Yr wythnos hon, bydd lleoliadau sydd wedi’u cofrestru gyda easyfundraising yn cael eu talu. Llongyfarchiadau i bob lleoliad sy’n derbyn taliad!

Os nad ydych chi wedi cofrestru eto, rydych yn colli allan ar ffordd hawdd ac am ddim o godi arian heb orfod gofyn i rieni a staff roi eu hunain.

Bydd 4,000 o siopau a safleoedd yn rhoi, gan gynnwys mân werthwyr lle mae’ch rhieni a’ch staff eisoes yn siopa Amazon, eBay, Booking.com, Hobbycraft, M&S, JUST EAT a Tesco.

Cofrestrwch nawr i ddechrau codi arian i gael offer addysgol, chwaraeon a chwarae, llyfrau, teithiau a phob math o bethau eraill i’r plant yn eich gofal!

World Book Day

Ddoe roedd hi’n Ddiwrnod Llyfr y Byd (Dydd Iau 5 Mawrth 2020) ac roedd gwisgoedd ffantastig ar draws pob un o’n sianeli cyfryngau cymdeithasol!

Prif nod Diwrnod Llyfr y Byd yn y DU a’r Iwerddon yw annog plant i ganfod pleser wrth ddarllen llyfrau. Eu cenhadaeth yw rhoi llyfr i bob plentyn a pherson ifanc i’w gadw.

Mae ymgyrch Diwrnod Llyfr y Byd ‘Rhannu Miliwn o Storïau’ yn dal i redeg hyd at 29 Mawrth 2020 – ymgyrch ledled y genedl i helpu newid bywydau plant trwy wneud rhannu stori’n arfer oes a hefyd greu darllenwyr am oes.  Mae llai yn darllen er mwyn pleser, felly mae angen hwb, codi ymwybyddiaeth a sbarduno miliynau i ddychmygu!

BBC Image

Seeing Double? Not in this case…

Gweld Dwbl? Nid y tro yma!

Mae meithrinfa yn Stockport wedi croesawu naw set o efeilliaid sydd, yn ôl staff yn ddigwyddiad unigryw.

Mae’r grŵp o blant, sy’n cynnwys dwy set o efeilliaid union yr un fath, yn amrywio o bum mis i bedair mlwydd oed.

Mae’r staff yn siŵr mai dyma’r unig feithrinfa yn y DU gyda chymaint o efeilliaid.

Mae’r adroddiad llawn yma.

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)