Mae Dysgu creadigol yn y blynyddoedd cynnar yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Blynyddoedd Cynnar Cymru a Llywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Sefydliad Paul Hamlyn.
Bydd y fenter yn dod ag ymarferwyr blynyddoedd cynnar ac Arweinwyr creadigol ynghyd i greu amgylcheddau a phrofiadau sy'n gyforiog o iaith, chwarae, datblygiad corfforol, ymgysylltu â'r awyr agored, celfyddydau, creadigrwydd ac ymdeimlad o ryfeddod a pherthyn.
Mae Dysgu creadigol yn y blynyddoedd cynnar yn adeiladu ar y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol gan Gyngor Celfyddydau Cymru sydd wedi dod â phrosiectau pwrpasol i dros 700 o ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig. Mae'r cynllun wedi cefnogi ysgolion i feithrin creadigrwydd disgyblion ac mae wedi eu paratoi i fod yn barod at y Cwricwlwm i Gymru 2022.
Dros y 3 blynedd nesaf bydd Dysgu creadigol yn y blynyddoedd cynnar yn cydweithio â lleoliadau blynyddoedd cynnar, gan gyfuno egwyddorion canolog y Cwricwlwm newydd ar gyfer lleoliadau meithrin heb eu cynnal gan y wladwriaeth â'r dull dysgu a ddatblygwyd ar gyfer y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol.
Mae dau gyfle i gymryd rhan ym menter Dysgu creadigol yn y blynyddoedd cynnar.
1. Gall lleoliadau y blynyddoedd cynnar sydd â diddordeb mewn cymryd rhan ddarganfod mwy o wybodaeth a llenwi mynegiad o ddiddordeb sy'n fyw ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru tan 1 Chwefror yma: https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd/dysgu-creadigol-yn-y-blynyddoedd-cynnar-galwad-allan-i-leoliadau-gofal Council of Wales
2. Gall ymarferwyr creadigol sydd â diddordeb mewn gweithio gyda'r fenter ddysgu mwy ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru: https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd/dysgu-creadigol-yn-y-blynyddoedd-cynnar-gwahoddiad-i-ymarferwyr
Am fwy o wybodaeth ebostiwch: [email protected]
Mae Dysgu creadigol yn y blynyddoedd cynnar yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Blynyddoedd Cynnar Cymru a Llywodraeth Cymru a gefnogir gan Sefydliad Paul Hamlyn. Bydd ffactorau allweddol yn cynnwys datblygiad sgiliau cyfathrebu a’r ffyrdd niferus mae plant ifanc yn mynegi eu hunain, eu datblygiad corfforol a’u hyder mewn archwilio, chwilfrydedd, chwarae a dysgu chwareus. Agwedd allweddol arall fydd ymestyn hwn ar draws Cymru, gan gynnwys i leoliadau dwyieithog neu Gymraeg.