Pennwyd y gyfradd fesul awr gychwynnol drwy ddefnyddio data o adroddiad Casglu Data'r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) 2017 gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Dengys gwerthusiad o flwyddyn 2 y Cynnig fod 79% o'r lleoliadau yn cytuno bod y gyfradd o £4.50 yr awr yn fasnachol hyfyw. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod pethau wedi symud ymlaen ac yn 2019 dechreuwyd adolygiad i ddeall effaith y gyfradd fesul awr a delir i ddarparwyr o dan y Cynnig. Cafodd hyn ei oedi oherwydd y pandemig ond mae bellach wedi ailddechrau. Ar hyn o bryd rydym yn adolygu'r gyfradd fesul awr ar gyfer gofal plant y telir amdano drwy ein cynllun Cynnig Gofal Plant i Gymru ac rydym yn gobeithio cael canlyniad i'w rannu â rhanddeiliaid ddiwedd yr Hydref.
- DIWEDD -
Llywodraeth Cymru 08.10.21