Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, rydym wedi llwyddo i wneud ein haelodaeth yn rhydd i bob aelod i helpu i gefnogi'r sector yn ystod yr heriau sy'n gysylltiedig â Covid.
Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr wedi penderfynu ymestyn y cynnig aelodaeth am ddim ar gyfer 2023 - 2024 mewn ymateb i'r cynnydd cyflym mewn pwysau ariannol sy'n gysylltiedig â chwyddiant a chostau cyfleustodau.
Mae hyn yn golygu y byddwch yn parhau i gael mynediad llawn i'n cefnogaeth a'n buddion hyd at 31 Mawrth 2024 heb unrhyw gost.
Rydym yn buddsoddi yn eich aelodaeth gan ddefnyddio ein cronfeydd ariannol i gefnogi eich lleoliad a'ch staff yn 2023 - 2024.