Cymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru’n troi’n Blynyddoedd Cynnar Cymru

Mae newid ein henw yn dangos beth ydyn ni a beth ydyn ni’n ei wneud, fel y dywedodd un o’n Hymddiriedolwyr “rydyn ni’n gwneud yn union beth ydyn ni’n ddweud ein bod ni’n ei wneud!”

Logo
Mwy

Mewn erthygl yn ddiweddar (smalltalk, gaeaf 2018, tud 4)  dywedodd Jane Alexander, Prif Weithredwr Blynyddoedd Cynnar Cymru wrth drafod hanes y sefydliad fod newid i Blynyddoedd Cynnar Cymru yn garreg filltir arall yn ein datblygiad fel sefydliad.  Rydyn ni wedi trafod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gyda’r staff, yr ymddiriedolwyr a’r aelodau i ddiffinio gweithgareddau’r sefydliad a’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi.  Yr enw Blynyddoedd Cynnar Cymru yw’r canlyniad.

Fel Blynyddoedd Cynnar Cymru, rydyn ni’n dal i hyrwyddo pwysigrwydd chwarae yn natblygiad plant.   Rydyn ni’n gweithio gyda rhieni, teuluoedd, meithrinfeydd dydd, grwpiau chwarae, grwpiau plant bach, myfyrwyr ac asiantaethau eraill sydd â diddordeb ym Mlynyddoedd Cynnar bywydau plant.  Rydyn ni’n cefnogi cymryd rhan mewn chwarae sydd o fudd i bob cenhedlaeth – chwarae corfforol, cymdeithasol, creadigol ac arloesol – y mae gan blant hawl iddo ac sy’n arwain at ddatblygiad iach er lles pawb.

Yn ystod yr 50 mlynedd diwethaf, gyda’n cefnogaeth ni, cafodd llawer iawn o grwpiau chwarae, meithrinfeydd dydd a grwpiau plant bach eu sefydlu.   Rydyn ni wedi helpu llawer o grwpiau chwarae i ddatblygu a dod yn feithrinfeydd dydd llawn i ymateb i anghenion teuluoedd.   Wrth i’n haelodau ddatblygu, rydyn ni hefyd wedi datblygu, drwy ddarparu hyfforddiant i’r gweithlu a chwifio’r faner dros ddatblygiad blynyddoedd cynnar a dysgu drwy chwarae ledled Cymru.

Rydyn ni wrth ein bodd yn cychwyn ar y bennod newydd hon a gallwn eich sicrhau y bydd ein strwythur o weithgareddau a staffio bresennol yn parhau.  Ond, fel Blynyddoedd Cynnar Cymru, byddwn yn ymdrechu i ddarparu’r gwasanaethau a fydd yn cefnogi rhieni, yn enwedig yn yr ychydig flynyddoedd cyntaf – y 1000 dyddiau cyntaf o fywyd.   Fel y dywedodd un aelod o staff yn ddiweddar “Rwy’n gweithio yma am fy mod i wedi gweld y manteision a gafodd fy mhlant i o ddarpariaeth blynyddoedd cynnar ac rwy eisiau i rieni’r dyfodol hefyd gael yr un manteision.

Felly, rydyn ni eisiau datblygu ein gwasanaethau ymhellach, i ymestyn allan at fwy o deuluoedd yn ystod y blynyddoedd cynnar hynny, eu cefnogi i helpu datblygiad eu plant a’u galluogi i gael y math o ddarpariaeth cyn-ysgol sy’n diwallu eu hanghenion.  Rydyn ni eisiau rhwystro unigedd drwy amlygu cyfleoedd i gymysgu gyda chyfoedion ac rydyn ni eisiau cefnogi’r gweithlu sy’n darparu’r gwasanaethau i’r grŵp oedran hwn,

Mae’r gweithlu blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae yn rhan hanfodol o fywydau miloedd lawer o blant yng Nghymru ym mhum mlynedd gyntaf eu bywydau ac rydyn ni’n datblygu ein hyfforddiant i gynnig cyrsiau gloywi sgiliau penodol e.e. ar gyfer y rhai’n gweithio gyda phlant 0-2 oed, rydyn ni’n cynnig hyfforddiant i gefnogi caffael iaith – cadwch lygad ar ein rhaglen hyfforddi.

Ond, serch hyn i gyd, fydden ni ddim ble rydym ni heddiw heb frwdfrydedd staff ein pencadlys, ein timau rhanbarthol a’n haelodau.  Mae ein staff wedi cofleidio’r newid hwn ac mae’r awyrgylch yma wedi bob yn drydanol wrth i ni symud i’r cam nesaf ym mywyd ein sefydliad.

Does dim ar ôl i mi ei ddweud ond “diolch yn fawr” i chi am eich cefnogaeth barhaus.  Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio gyda chi i lwyddo i gael dyfodol positif i bob plentyn ifanc a’u teuluoedd.

Page contents

Mwy

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)