Heddiw, mae Cwlwm, y bartneriaeth strategol sy'n cynrychioli sefydliadau allweddol yn y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae yng Nghymru, wedi lansio ei Maniffesto ar gyfer Dyfodol Tecach cyn etholiadau'r Senedd nesaf.
Mae'r maniffesto yn amlinellu saith galwad allweddol Llywodraeth nesaf Cymru i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor ar gyfer y blynyddoedd cynnar a'r sector chwarae, mynd i'r afael â thlodi, a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol – hollbwysig i sicrhau dyfodol mwy disglair a thecach i genedlaethau'r dyfodol Cymru.
Mae maniffesto Cwlwm yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ymrwymo i:
- Mwy o gyflog a chymorth ariannol wedi'i dargedu i fynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio a chadw yn y sector.
- Cyllid cyson, hirdymor i sicrhau sefydlogrwydd a chynaliadwyedd gwasanaethau sy'n cefnogi teuluoedd ledled Cymru.
- Gwell gwerth y sector wrth lunio polisïau, gan gydnabod ei rôl ganolog mewn addysg, gofal a gwytnwch cymunedol.
- Mwy o gefnogaeth i blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) drwy arfogi'r sector gydag adnoddau a hyfforddiant i ddarparu gofal cynhwysol.
- Cefnogaeth ar gyfer lles a chyfiawnder cymdeithasol, gan gydnabod rôl hanfodol y sector wrth fynd i'r afael â thlodi plant a hyrwyddo cydraddoldeb.
- Gwneud Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yn ddeddfwriaeth statudol, gan sicrhau bod gan y sector sylfaen ddeddfwriaethol gref ar gyfer y dyfodol.
- Gwella gallu Cwlwm i weithredu ei waith Gwrth-hiliaeth
Mae'r saith galwad hyn yn cynrychioli gweledigaeth unedig ar gyfer sut y gall y sector blynyddoedd cynnar a chwarae ffynnu a pharhau i ddarparu cymorth hanfodol i deuluoedd, cymunedau a'r economi.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Mudiad Meithrin a Chadeirydd Partneriaeth Cwlwm, Dr Gwenllian Llansdown Davies:
"Mae gwasanaethau blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae yn hanfodol er mwyn i blant Cymru gael dechrau cadarnhaol, plentyndod chwareus ac i gymunedau ffynnu. Maent yn darparu'r gwasanaethau allweddol ar gyfer datblygiad plant ac yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi teuluoedd ledled Cymru. Mae'r busnesau, yr elusennau a'r gweithlu'n canolbwyntio ar ddarparu profiadau gofal plant o ansawdd uchel i blant o'u geni - 12 oed. Mae maniffesto Cwlwm yn cydnabod pwysigrwydd hyn yn nhermau polisi, gan greu gweledigaeth o ddarpariaeth gofal plant cynaliadwy hirdymor a fydd yn cefnogi'r genhedlaeth nesaf o blant ifanc yng Nghymru am ddegawdau i ddod"
Cwlwm