Blynyddoedd Cynnar Cymru yn rhyddhau Datganiad Cydraddoldeb Hiliol

Ar Dydd Mawrth, 7 Mehefin 2022 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol. I gefnogi hyn, cyhoeddodd Blynyddoedd Cynnar Cymru ei Datganiad Cydraddoldeb Hiliol hefyd.

 

children in nursery setting

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol yn cynnwys nifer o gamau gweithredu arfaethedig ar gyfer y sectorau gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar. Gwnaeth Dave Goodger, Prif Swyddog Gweithredol, Blynyddoedd Cynnar Cymru y datganiad hwn ynglŷn â gwaith y sefydliadau.

"Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru, rhanddeiliaid a phartneriaid i gefnogi'r dyhead i wneud Cymru'n wlad gwrth-hiliol erbyn 2030. Mae'n waith y mae Blynyddoedd Cynnar Cymru yn falch o chwarae ei ran ynddo. Mae'r datganiad heddiw, ar ôl diweddaru'r Cynllun Gweithredu Gwrth-—hiliol ddoe, yn amlinellu rhywfaint o'n gwaith hyd yma, y gweithwyr proffesiynol yr ydym wedi cydweithio â hwy, a'n bwriad i barhau â'r gwaith hwn yn y dyfodol. Mae'n cynrychioli ein hymrwymiad parhaus i helpu i oresgyn unrhyw rwystrau sy'n gysylltiedig â hil ac ethnigrwydd yn ein cymdeithas."

Gellir darllen Datganiad Cydraddoldeb Hiliol Blynyddoedd Cynnar Cymru yn llawn yma: https://www.earlyyears.wales/en/race-equality

Adnoddau defnyddiol

Page contents

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)