Cofiwch ddarllen yn ofalus pob deunydd canllaw perthnasol gan Lywodraeth Cymru fel eich bod yn deall yn iawn beth sydd ei angen ar gyfer ail agor. Mae’n bwysig fod yr wybodaeth gennych chi’r wybodaeth gywir, cofiwch mai gan Lywodraeth Cymru y mae’r hawl i lacio’r cyfnod clo a dod allan o’r argyfwng hwn yng Nghymru.
- Os yw plentyn / aelod o staff neu aelod o deulu plentyn neu aelod o staff yn dangos symptomau COVID-19 mae’n rhaid iddyn nhw beidio dod i’r lleoliad gofal plant a dilyn canllawiau presennol Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Os bydd plentyn yn derbyn gofal yn dangos symptomau, dylid symud y plentyn oddi wrth blant eraill a galw ar riant / gofalwr ar unwaith i gasglu’r plentyn a’i ddanfon adref
Rydyn ni’n deall na fydd ail agor eich lleoliad yn golygu mynd yn ôl i’r ffordd roeddech yn gweithio o’r blaen, mae’n debyg iawn y bydd pethau’n ymddangos yn wahanol iawn i ddechrau ac y bydd yn cymryd amser i fynd yn ôl i ble roeddech chi. Mae’n rhaid ail agor mewn ffordd sy’n rhoi diogelwch y plant, y staff a’r rhieni yn gyntaf.
Nid yw’r rhestr yn holl gynhwysol, ei diben yw eich annog i feddwl am y newidiadau efallai y bydd yn rhaid i chi eu gwneud wrth inni symud yn ôl at wasanaeth llawn. Mae’r cyngor yn newid bron bob dydd felly efallai y bydd rhai o’r canllawiau wedi newid, byddwn yn gwneud ein gorau i gadw’r canllaw hwn yn gyfoes ar ein gwefan earlyyears.wales.
Lawrlwytho
Atodiad | Maint |
---|---|
![]() | 519.32 KB |
Blynyddoedd Cynnar Cymru