Blynyddoedd Cynnar Cymru Her Olympaidd

Eleni cynhelir Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yr Haf ym Mharis (26 Gorffennaf - 11 Awst). 

Child Crawling through Hula Hoop

Dim hir i fynd nes bod 31 Olympiaid Cymreig hynod dalentog ar droed yn eu dewis arena I gynrychioli Team GB yng ngemau haf Paris.

Bydd miliynau o blant ledled y byd yn gwylio ac yn cael eu hysbrydoli gan yr athletwyr sy'n sefyll yn falch y tu ôl i faner eu gwlad - gan eu hannog i feddwl am eu gobeithion a'u breuddwydion eu hunain.

Mae'r sector blynyddoedd cynnar yn chwarae rhan mor bwysig wrth greu cariad at weithgarwch corfforol; a elwir hefyd yn lythrenedd corfforo. Mae astudiaethau wedi dangos bod plant sy'n cymryd rhan mewn lefelau uchel o weithgarwch corfforol o oedran ifanc, yn fwy tebygol o barhau.

“Ni fydd plant ar unrhyw adeg arall yn dysgu cymaint o sgiliau corfforol ag y maent yn ei wneud yn ystod pum mlynedd gyntaf eu bwyd!" – 1000DiwrnodCynta

I'ch helpu i ddathlu Gemau Paris 2024 yn eich lleoliadau, rydym wedi rhoi golwg newydd ar ein cardiau gweithgaredd Her Olympaidd Blynyddoedd Cynnar Cymru 2021 ar gyfer Paris! Mae'r gweithgareddau hyn wedi'u hanelu at blant cyn oed ysgol i ddatblygu'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer iechyd a lles. Mae Her Olympaidd Blynyddoedd Cynnar Cymru 2024 wedi'i datblygu i helpu eich plant a theuluoedd yn actif gyda'r nod o:

  • Datblygu cariad a rennir at weithgarwch corfforol
  • Myfyrio ar ddatblygiad corfforol cynnar, a chymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog sy'n datblygu sgiliau sylfaenol cynnar
  • Bod yn fwy ymwybodol o fanteision gweithgarwch corfforol
  • Darparu cyfleoedd i brofi a datblygu a diddordeb mewn chwaraeon
Wedi'i gynnwys yn y pecyn:
  • Athletau
  • Beicio
  • Marchogol
  • Hoci
  • Gymnasteg Rhythmig
  • Sgrialu
  • Dringo
  • Babanod y Dŵr
  • Codi Pwysau
  • Pêl-foli
  • Beth yw llythrennedd corfforol
  • Pwysigrwydd llythrennedd corfforol i blant yn y blynyddoedd cynnar
  • Tystysgrif cyfranogiad i blant

I gofrestru fel aelod ewch i'n tudalen aelodaeth.

Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau'r syniadau hyn gymaint ag yr ydym wedi eu rhoi at ei gilydd. Mae croeso i chi ein tagio mewn unrhyw bostiadau ohonoch yn rhoi cynnig ar y gweithgareddau ar draws cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r hashnod #HerOlympaidd2024BlynyddoeddCynnarCymru

Facebook: @EarlyYearsWales2018
X: @EarlyWales
Instagram: @earlyyearswales

Page contents