Bydd David yn cymryd drosodd oddi wrth Jane Alexander pan fydd hi’n ymddeol ddiwedd mis Chwefror. Rydym ni i gyd yn edrych ymlaen at ei gefnogi yn ei swydd newydd. Mae’n dod â chyfoeth o brofiad a sgiliau i’r sefydliad ac meddai
“Rwyf wrth fy modd fy mod wedi fy mhenodi i’r swydd o Brif Weithredwr Blynyddoedd Cynnar Cymru a byddaf yn gweithio i gefnogi plant ifanc a’u teuluoedd a gofalwyr ar ôl treulio’r tair blynedd ddiwethaf yn gweithio ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw. Yn dilyn gyrfa a oedd yn cynnwys dysgu, rheoli prosiectau awdurdod lleol a rheoli rhaglenni cenedlaethol, rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda thîm Blynyddoedd Cynnar Cymru, ein Hymddiriedolwyr ac aelodau er mwyn cefnogi datblygu a dysgu plant”.