Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn rhoi arian gan y llywodraeth ar gyfer hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant i rieni sy’n gweithio yng Nghymru, am hyd at 48 wythnos o’r flwyddyn.
Yn ystod tymor yr ysgol, mae’r 30 awr yn cael ei rhannu’n ddwy ran: lleiafswm o 10 awr o ddarpariaeth addysg gynnar, ac uchafswm o 20 awr o ofal plant gan ddarparwr sydd wedi’i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Yn ogystal â 39 wythnos o gyllid yn ystod y tymor, mae’r Cynnig hefyd ar gael ar gyfer hyd at naw wythnos o wyliau’r ysgol bob blwyddyn, a gall rhieni hawlio tair wythnos am bob tymor ysgol maen nhw’n manteisio ar y Cynnig. Bydd union nifer yr wythnosau gwyliau y gallwch eu cael yn dibynnu ar bethau fel pen-blwydd eich plentyn a’r dyddiad y dechreuwch fanteisio ar y Cynnig. Gallwch gysylltu â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol i gael gwybodaeth leol fanylach, i sicrhau eich bod yn defnyddio’r Cynnig yn y ffordd orau.
Byddwch yn synnu faint o wahanol fathau o ofal plant sy’n rhan o’r Cynnig. Gallwch gael gofal plant wedi’i ariannu trwy unrhyw feithrinfa breifat, Cylch Meithrin, lleoliad gofal sesiynol, cylch chwarae neu warchodwr plant sydd wedi cytuno i ddarparu’r Cynnig yn eich ardal ac sydd wedi’i gofrestru gydag AGC, a gallwch gael addysg gynnar mewn meithrinfa ysgol neu leoliad gofal plant sydd wedi’i gymeradwyo i ddarparu addysg gynnar gan eich Awdurdod Lleol. Cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol i gael gwybod pa leoliadau yn eich ardal sy’n darparu pob elfen o’r Cynnig.
Mae Cynnig Gofal Plant Cymru ar gael i helpu rhieni sy’n gweithio’n galed yng Nghymru; gallai ychydig o arian ychwanegol bob wythnos fynd ymhell tuag at ddarparu pethau pwysig i’ch teulu, a gallai ychydig o amser ychwanegol roi cyfle i chi ddychwelyd i weithio neu gynyddu’ch oriau. Bydd y Cynnig wedi gwella bywydau rhieni sydd eisoes wedi’i ddefnyddio mewn gwahanol ffyrdd.
Un ohonyn nhw yw Matt, tad o Rondda Cynon Taf. Wrth sôn am y Cynnig, dywedodd:
“Roedd yr arian yn golygu y gallai fy ngwraig fynd yn ôl i weithio am bedwar diwrnod o’r wythnos yn lle tri, a oedd o gymorth mawr ac wedi ysgafnhau’r pwysau mewn llawer o ffyrdd, nid dim ond yn ariannol. Yna, fe argymhelles i’r Cynnig i fy nheulu a ffrindiau, ac fe fanteision nhw arno hefyd.”
Yn ogystal â’r manteision di-ri i rieni, yn ariannol ac fel arall, rhaid peidio ag anghofio am y buddion a gaiff eich un bach trwy fynd i ofal plant ac addysg gynnar. Gan fod y Cynnig yn lleihau pryderon ynglŷn â fforddiadwyedd, gall rhieni fod yn sicr bod eu plentyn yn datblygu ac yn ffynnu gyda’i gyfoedion, yn gwneud ffrindiau ac yn cael hyd i’w ffordd yn y byd. A hynny ar yr un pryd ag arbed amser ac arian.
Ychwanegodd ei wraig, Sarah:
“Dywedodd ein gwarchodwr plant wrthym am y Cynnig – fe wnaeth gymaint o wahaniaeth i ni ac roeddwn i mor ddiolchgar am gael gwybod amdano. Fe arbedon ni lawer – fe ddefnyddion ni’r arian i brynu dillad, mynd ar ddiwrnodau allan a chynilo. Penderfynais gynyddu fy oriau yn y gwaith, a oedd yn rhwydd oherwydd roedden ni’n arbed costau gofal plant. Rydw i mor ddiolchgar am y cymorth a gawson ni a byddwn yn annog pobl eraill i wneud y mwyaf ohono.”
Y newyddion da yw bod y rhan fwyaf o rieni sy’n gweithio sy’n byw yng Nghymru yn gymwys ar gyfer y Cynnig. Edrychwch ar y prif feini prawf isod, a ddylai roi syniad i chi ynghylch p’un a ddylech chi wneud cais:
- Mae’n rhaid bod eich plentyn yn 3 neu’n 4 oed
- Mae’n rhaid eich bod yn gweithio ac yn ennill o leiaf yr hyn sy’n cyfateb i’r isafswm cyflog cenedlaethol am 16 awr yr wythnos, ar gyfartaledd – mae hyn yn berthnasol i rieni sengl a’r ddau riant mewn teuluoedd â dau riant
- Mae’n rhaid eich bod yn ennill llai na £100,000 y flwyddyn
Os ydych eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn bodloni’r holl feini prawf cymhwysedd, mae rhagor o fanylion ar gael yma.
Cofiwch – mae Cynnig Gofal Plant Cymru yma i helpu. Beth fyddech chi’n ei wneud gydag ychydig o gymorth ariannol ychwanegol tuag at ofal plant? Efallai ei bod hi’n bryd darganfod.
I weld manylion llawn Cynnig Gofal Plant Cymru, cliciwch yma.