Beth yw brand?

Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru yn fwy na dim ond newid enw a chael logo newydd 

Logo
Mwy
Brand

Mae ailfrandio’n brofiad emosiynol a blinderus.  Roedden ni’n gwybod ein bod yn gwneud y peth iawn ond, gyda sefydliad fel ein un ni sydd â threftadaeth mor gyfoethog, roedden ni eisiau anrhydeddu hynny ond mewn ffordd gyfoes.  Dyma lle daeth ein hasiantaeth frandio, designdough, i mewn…

“Wrth i ni gyfarfod gyntaf â Blynyddoedd Cynnar Cymru, neu Gymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru fel yr oedden nhw’n cael eu galw’r adeg hynny, roedden nhw ar fin trobwynt cyffrous. Ar ôl symleiddio eu hamcanion strategol ar gyfer tŵf cynaliadwy roedden nhw’n barod i fwrw ymlaen gydag ail enwi ac ail frandio eu sefydliad a hybu ac ailfywiogi eu nodau, eu cenhadaeth a’u gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, gan sicrhau eu bod yn symud ymlaen gyda dyfodol clir.

Roedden ni’n sylweddoli, er mwyn i’r sefydliad gyrraedd cynulleidfa ehangach, ac i ymestyn cylch gorchwyl y sefydliad yn fewnol ac yn allanol, y byddai’n rhaid cydnabod a chyfnerthu’n briodol ddiwylliant mewnol ymroddgar a gwirioneddol angerddol y sefydliad. Byddai hyn yn galluogi’r synnwyr o falchder sydd mor amlwg yn y staff a’r rhanddeiliaid i ddisgleirio drwy’r brand.

“Ers ei sefydlu yn y 1960au, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru wedi tyfu’n aruthrol o ran staff, setiau sgiliau a phrofiad a hefyd yn yr amrywiaeth gyfoethog o wasanaethau y mae’n gallu ei gynnig.  Felly nid oedd ond yn briodol fod ymddangosiad allanol y sefydliad, y brand gweledol, yn adlewyrchu llwyddiannau rhyfeddol a blaengar yr elusen hon sydd, ers cymaint o amser, wedi gweithio’n ddygn yng nghefndir y sector heb nemor ddim cydnabyddiaeth o’i lwyddiannau nag o galibr yr hyn sydd ganddi i’w gynnig.

Ar ôl cyfres o gyfarfodydd a gweithdai i ddeall calon Blynyddoedd Cynnar Cymru a’i hamcanion, roedd yn bryd cychwyn ar y broses ddylunio a chyflwyno adnabyddiaeth weledol amlwg, flaengar a chyfoes a fyddai’n dal i anrhydeddu cefndir a threftadaeth gyfoethog y sefydliad. Cyflwynwyd tri chysyniad cychwynnol, yn amrwyio o’r hynod liwgar ac yn canolbwyntio ar blant, i gysyniad gweledol soffistigedig a choeth.  Dewisodd Blynyddoedd Cynnar Cymru dir canol dau gysyniad, logo typograffeg glân a chrwn gydag eiconograffeg chwareus mewn paled nwyfus ond cyfoethog o liwiau cefnogol. Mae’r brand newydd yn cynnig synnwyr o hygrededd ac awdurdod sefydledig, eto’n dangos gwir galon y sefydliad, y pwyslais ar blant, chwarae, darganfod a datblygu.

“Mae’r ail-frandio’n cynnig pecyn sydd nid yn unig yn hyrwyddo’r sefydliad ac yn cadarnhau ei safle yn y dyfodol drwy gynnig apêl ddigyfnewid ond sydd hefyd yn gallu ennyn hyder, balchder a chydnabyddiaeth yn ei holl staff, rhanddeiliaid ac aelodau mai hwn yw EU BRAND, bod eu llais yn bwysig, ac yn hanfodol a mwyaf tyngedfennol, ei fod yn cael gwrandawiad. Mae arddull yr eiconograffeg yn ddigon hyblyg i alluogi’r elusen i ychwanegu symbolau ar gyfer gwasanaethau, mentrau ac amcanion newydd yn y man.  Mae’n rhoi’r cyfle a’r symbyliad iddyn nhw fod mor flaengar ag y maen nhw’n dymuno wrth i anghenion plant ac aelodau newid dros y blynyddoedd. Wrth galon y brand y mae’r cysyniad o weld plant Cymru’n CHWARAE, yn DYSGU ac, yn pen draw, yn FFYNNU. Mae hyn hefyd yn wir am weledigaeth Blynyddoedd Cynnar Cymru fel sefydliad blaengar, yn chwareus ac yn arbrofol gyda’i gynnyrch, yn dysgu o’r gorffennol i ffurfio ei ddyfodol ac yn dal i ffynnu a datblygu fel elusen werthfawr yng Nghymru.

“Oddi wrth bawb yn nhîm designdough, fe hoffen ni ddweud cymaint o bleser oedd gweithio ar yr ail-frandio gyda phawb ym Mlynyddoedd Cynnar Cymru, rydyn ni wrth ein bodd mai dim ond dechrau yw hyn ar y berthynas hirhoedlog y bydden ni wrth ein bodd yn ei hadeiladu gyda nhw. Rydyn ni’n dymuno’r gorau iddyn nhw wrth lansio adfywio eu brand a byddwn ni yno bob cam o’r ffordd i gefnogi ac i ddathlu”.

Page contents

Mwy

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)