Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i roi'r gorau i gynnal gwiriadau prawf adnabod

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cyhoeddi y bydd yn haws trefnu apwyntiad ar gyfer gwiriad prawf adnabod o 1 Gorffennaf 2021 ymlaen.

care_inspectorate_wales_logo

O'r dyddiad hwn ymlaen, ni fydd AGC yn gofyn i chi fynd i wiriad prawf adnabod rhithwir neu wyneb yn wyneb yn un o swyddfeydd AGC yn ystod eich oriau gwaith. Bydd modd i chi ddefnyddio'r gwasanaeth gwirio prawf adnabod a ddarperir mewn Swyddfa Bost leol, sy'n cynnig yr hyblygrwydd i chi drefnu gwiriad prawf adnabod gan ystyried eich oriau gwaith, ac mewn lleoliad sy'n agos at eich cartref. Bydd Swyddfa'r Post yn codi ffi weinyddol fach o £12 am y gwasanaeth hwn.

O 1 Gorffennaf 2021 ymlaen, bydd y system gwneud cais ar-lein yn eich ysgogi, fel rhan o'r broses gwneud cais, i drefnu apwyntiad gwirio prawf adnabod mewn Swyddfa Bost leol o'ch dewis.

Os byddwch wedi cofrestru â Gwasanaeth Diweddaru'r DBS, bydd eich tystysgrif DBS yn parhau'n gyfredol cyhyd ag y byddwch yn parhau i dalu eich tanysgrifiad blynyddol. Felly, ni fydd yn ofynnol i chi ddod i wiriadau prawf adnabod bob tair blynedd, cyhyd â bod eich tanysgrifiad yn weithredol o hyd a/neu na fydd unrhyw newid i unrhyw wybodaeth yn eich gwiriad DBS.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i danysgrifio i'r gwasanaeth diweddaru ar gael yma.

Cwestiynau?

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Arolygiaeth Gofal Cymru neu gallwch anfon e-bost atom yn [email protected].

Page contents

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)