Arolwg Llywodraeth Cymru o ddarparwyr gofal plant, chwarae a gweithgareddau i blant yng Nghymru

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd, sy'n eithrio rhai darparwyr gofal plant, chwarae a gweithgareddau yng Nghymru, rhag gorfod cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd

image is of the Welsh Government logo

Rhannwch gyda eich rhwydweithiau os gwelwch yn dda.

Mae'r arolwg hwn yn rhoi cyfle i'r rhai nad ydynt wedi cofrestru gyda AGC ac sy'n cynnig gofal plant, chwarae a gweithgareddau i blant 0-12 oed yng Nghymru, lle nad yw'r rhiant neu'r prif ofalwr yn bresennol, i roi eu barn i gefnogi Llywodraeth Cymru i ddeall:

  • pa fath o wasanaethau a chyfleoedd y maent yn eu cynnig i blant a theuluoedd yng Nghymru
  • sut mae'r gosodiadau hyn yn gweithredu a pham eu bod yn gweithredu fel hyn
  • pa bolisïau, gweithdrefnau ac o bosibl goruchwyliaeth sydd ar waith, ac
  • sut mae'r gosodiadau hyn yn teimlo am gofrestru gyda AGC.

Bydd yr arolwg hwn yn cymryd tua 15 munud i'w gwblhau.

https://www.smartsurvey.co.uk/s/EANZAY/

Mae croeso i chi rannu'r ddolen arolwg gydag unrhyw un a hoffai ymateb. Fel y soniwyd mae gan Llywodraeth Cymru ddiddordeb mewn clywed gan ddarparwyr gofal plant, chwarae a gweithgareddau i blant nad ydynt wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru fel Gwarchodwr Plant neu ddarparwr Gofal Dydd o dan y Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010.Bydd yr arolwg yn dod i ben ar 8/11/24.

Os hoffech wneud unrhyw ymholiadau am yr arolwg, y proses adolygu neu ddarparu gwybodaeth y credwch a fyddai'n ddefnyddiol ond heb ei chynnwys yn yr arolwg, e-bostiwch: [email protected]

Page contents

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)