Adolygiad Tlodi Plant Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru’n cynnal adolygiad o’r rhaglenni a’r gwasanaethau ar draws y Llywodraeth er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf bosibl ar fywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n byw mewn tlodi.

Logo

Cynlluniwyd y rhan fwyaf o’r rhaglenni presennol i helpu teuluoedd sy’n byw mewn tlodi gyda chostau byw o ddydd i ddydd (e.e. prydau ysgol am ddim, Grant Amddifadedd Disgyblion – Mynediad, a Chynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor). Mae rhai gwasanaethau’n rhoi cymorth i unigolion a theuluoedd difreintiedig, megis Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf, ac mae eraill yn darparu cymorth tymor canolig neu hirdymor i wella iechyd a chyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth (e.e. Cynnig Gofal Plant Cymru, Lwfans Cynhaliaeth Addysg, Cymunedau am Waith a Mwy).

O feddwl am yr ystod o raglenni a gwasanaethau a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn eich ardal chi ar hyn o bryd, yn benodol y rheini sydd wedi’u cynllunio i gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n byw mewn tlodi, byddem yn hoffi cael eich ymateb i’r canlynol:

Pa raglen(ni) neu fenter/mentrau, os o gwbl, ydych chi’n credu sy’n fwyaf buddiol a pham?
Pa raglen(ni) neu fenter/mentrau, os o gwbl, nad ydynt yn gweithio mor dda a pham (gan gynnwys unrhyw rwystrau, os yn berthnasol)?
Beth ydych chi’n credu fyddai’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i blant, pobl ifanc a theuluoedd er mwyn helpu i wella eu sefyllfa: a) o ddydd i ddydd, a b) yn y tymor hwy? Dylech ganolbwyntio ar y meysydd hynny lle mae gan Lywodraeth Cymru’r pwerau i wneud gwahaniaeth.
Beth, yn eich barn chi, yw’r ffyrdd gorau o gyflawni hyn?
Byddem yn ddiolchgar pe gallech anfon eich sylwadau drwy e-bost at:

Lindsey Kearton, Arweinydd yr Adolygiad Tlodi Plant  [email protected]

DYDDIAD CYFWELD: dydd Gwener 17 Ionawr 2020.

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)