5 Gwlad Blynyddoedd Cynnar Datganiad ar 30ain Pen-blwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant

Y 5 sefydliad sy’n cefnogi Blynyddoedd Cynnar yn y DU a’r Iwerddon yw: Plentyndod Cynnar Iwerddon, Blynyddoedd Cynnar, Cynghrair Blynyddoedd Cynnar, Blynyddoedd Cynnar yr Alban, Blynyddoedd Cynnar Cymru

Home Logo
Mwy
5 nations logo

Rydym yn falch o ddathlu 30ain pen-blwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant (UNCRC) ar 20fed Tachwedd 2019 ac yn llongyfarch pawb sydd wedi ei barchu a’i fabwysiadu ac yn ei gynnwys yn eu bywydau pob dydd.

Mae pob un o’r 5 sefydliad Blynyddoedd Cynnar yn gosod y Confensiwn yng nghanol ein gwaith drwy anelu fod pob plentyn yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd ac yn gallu ffynnu a chyrraedd ei lawn botensial.  Mae Erthygl 7 yn rhoi hawl i bob plentyn, wrth gael ei eni, i gael ei gofrestru ac i gael enw a chenedligrwydd a, hyd y bo’n bosibl, i adnabod a derbyn gofal gan eu rhieni.

Yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, mae’r erthyglau wedi nerthu unigolion a llywodraethau i weithio gyda’i gilydd i sicrhau fod plant yn gallu mwynhau pob un o’u hawliau beth bynnag yw eu hethnigrwydd, rhywedd, crefydd, iaith neu allu.

Rydym yn cydnabod y rôl ganolog fod pob un o aelod wladwriaethau’r  Cenhedloedd Unedig wedi mabwysiadu’r Confensiwn wedi’i chwarae mewn gwella bywydau plant drwy weithredu’r 54 erthygl, sy’n cynnwys pob agwedd o fywyd plentyn ac sy’n datgan yn glir yr hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol y mae gan bob plentyn ym mhob man hawl i’w cael.

Wrth gydnabod yr ystyriaeth mae pob un o’r 5 gwlad yn ei roi ar hyn o bryd i’r Confensiwn wrth ddatblygu a chymeradwyo deddfwriaeth, mae’r 5 sefydliad Blynyddoedd Cynnar yn annog pob un o’r 5 gwlad i sefydlu’r Confensiwn yn eu deddfwriaeth, fel y mae Cymru wedi’i wneud ers 2011, ac sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd yn yr Alban, er mwyn gwarchod Hawliau Plant y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.

Ar y cyd, rydym yn cydnabod bod angen rhagor o waith i sicrhau cysondeb ym mhob gwlad wrth gyfarfod ag anghenion yr holl blant a’u teuluoedd yn ystod plentyndod cynnar, gyda gwasanaethau a pholisïau’n cael eu harwain gan blant ac sy’n cydnabod yr hawliau sydd wedi’u cynnwys yn y Confensiwn.

Mae’n raid i’r Confensiwn fod yn anwleidyddol a chael ei gofleidio gan bob ffurfiwr polisiau a chyfreithiau er mwyn sicrhau fod pob plentyn yn gallu mwynhau eu hawliau.

Gyda’n gilydd, edrychwn ymlaen at ddyfodol ble mae hawliau plant yn hollol wybyddus, yn cael eu parchu ac wedi’u sefydlu ym mholisïau a chyfreithiau pob gwlad ym mhob rhan o’r byd.

– DIWEDD –

Sefydliadau’r 5 Gwlad Blynyddoedd Cynnar

Iwerddon: www.earlychildhoodireland.ie

Lloegr: www.eyalliance.org.uk

Gogledd Iwerddon: www.early-years.org

Yr Alban: www.earlyyearsscotland.org

Cymru:www.blynyddoeddcynnar.cymru

Page contents

Mwy

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)