Mae'r cyhoeddiad am £20m ychwanegol i ofal plant yn ychwanegu at becyn o fesurau sy'n cynnwys:
- Newid y gyfradd a delir i ddarparwyr o £5.00 yr awr i £6.00 yr awr ar gyfer lleoedd gofal plant a ariennir gan gynyddu'r taliad hwn 20%
- Gwneud Rhyddhad Ardrethi Busnes yn barhaol ar gyfer safleoedd gofal plant
- Adolygu'r gyfradd gofal plant bob blwyddyn, yn hytrach nag unwaith bob tair blynedd
- Caniatáu cynnydd o 20% yn y swm y gall darparwyr ei godi ar rieni i dalu costau bwyd
Er y gall y cynnydd mewn cymorth dod fel rhyddhad i rai lleoliadau, mae yna ofnau gan lawer yn y sector na fydd y cyllid hwn yn ddigon i wrthdroi'r amgylchiadau heriol y mae darparwyr gofal plant yn eu hwynebu. Nodwn fod Ysgrifennydd y Cabinet, Mark Drakeford AS, yn awgrymu y gallai sgyrsiau ddigwydd rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol, a allai arwain at wella'r gefnogaeth i'r sector gofal plant. Rydym yn edrych ymlaen at glywed canlyniadau'r sgyrsiau hyn.
Mae ein tystiolaeth yn awgrymu:
- Mae llawer o'n haelodau yn nodi nad yw £6.00 yn ddigonol i gynnal eu gwasanaethau[i]
- Mae isafswm cyflog yn cynyddu o 6.7% ym mis Ebrill 2025 ac wedi cynyddu 28.5% ers 2022. Mae hyn yn berthnasol oherwydd bod cyflogau'r sector gofal plant yn isel, a dim ond cyflog sy'n cyd-fynd yn agos ag isafswm cyflog y mae llawer o ddarparwyr yn gallu ei gynnal.[ii]
- Mae costau cyfleustodau a chostau gweithredol cysylltiedig wedi codi'n sylweddol ers 2022
- Yn ddiweddar, galwodd perchnogion gofal plant am £8.80 yr awr[iii]
- Nid yw rhyddhad ardrethi busnes yn cefnogi darparwyr gofal plant yn y sector elusennol, na'r rhai sy'n gweithio o adeiladau cymunedol
Dywedodd Prif Weithredwr Blynyddoedd Cynnar Cymru, David Goodger:
“Rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth pellach i'r sector gofal plant yng Nghymru. Mae'r cynnydd o 20%, ochr yn ochr â'r adolygiad blynyddol, yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau cadarnhaol i edrych ar y systemau sy'n cefnogi'r sector gofal plant sy'n cael eu croesawu. Fodd bynnag, mae'r oedi cyn mynd i'r afael ag anghenion y sector rhwng 2022 a 2024, effeithiau llymder a chwyddiant, a chyfyngiadau'r cynnig hwn yn peri pryder.
Yn 2023, dangosodd ein haelodau eu bod yn teimlo y gallent gynnal eu gwasanaethau am 1-2 flynedd yn seiliedig ar eu modelau cyllideb gyfredol.. Byddwn yn gofyn i'n haelodau am eu barn ar y gyfradd newydd, ochr yn ochr â'r posibilrwydd o gwrdd â chynnydd arall o 6.7% mewn costau Cyflog Byw.
Mae hyn yn bwysig oherwydd rwy'n gwybod y bydd llawer o berchnogion, rheolwyr a byrddau llywodraethu yn edrych yn hir ac yn galed ar eu costau ac a allant gynnal eu busnesau a'u helusennau, cadw staff, ac a allant barhau i gynnig y lleoedd a ariennir ar y Cynnig Gofal Plant i'r teuluoedd yn eu cymunedau”.
llyw.cymru
llyw.cymru