- Voluntary (Expenses only)
Dod yn Ymddiriedolwr
Oes gennych chi ddiddordeb yn y sector blynyddoedd cynnar yng Nghymru?
Os oes, mae angen eich help arnom i arwain ein strategaeth a'n helpu i gyflawni ein dyhead; i gefnogi sector blynyddoedd cynnar rhagorol yng Nghymru drwy ein gwaith gyda'n aelodau.
Mae elusennau, fel Blynyddoedd Cynnar Cymru, yn dibynnu ar wirfoddolwyr i oruchwylio'n strategol y rheolaeth o'r sefydliad.
Gall dod yn ymddiriedolwr fod yn werth boddhaus. Fel ymddiriedolwr, mae gennych gyfle i gefnogi a siapio gwaith a chyfeiriad strategol ein sefydliad, a gallwch wneud gwahaniaeth sylweddol yn ein gwaith.
Rydym yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth i ymddiriedolwyr newydd gan gynnwys; profiadau sy'n cyfrannu at braslun bywyd cryf; profiad mewn gynllunio ac arwain strategol; a phrofiad o reoli risg, rhannu gweledigaeth, a dylanwadu a negodi blaenoriaethau sefydliadol.
Os oes gennych sgiliau neu'n wybodus mewn:
- Y sector blynyddoedd cynnar (unrhyw lefel)
- Cyllid a chynllunio busnes
- Diogelu ac amddiffyn plant
- Y sector elusennol
Hoffem glywed oddi wrthych.
Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru yn sefydliad sydd wedi'i wreiddio mewn gwerthoedd ecwiti i bawb. Rydym yn croesawu diddordeb gan unrhyw un ac yn recriwtio i rolau staff a gwirfoddolwyr yn hyrwyddo'n rhagweithiol amrywiaeth a chyfleoedd i bawb.
I wneud cais:
E-bostiwch [email protected] gyda CV neu lythyr cais yn amlinellu eich sgiliau a'ch diddordeb yn y rôl.
I gael rhagor o wybodaeth am Blynyddoedd Cynnar Cymru ewch i: https://www.earlyyears.wales/cy/amdanom-ni
Am sgwrs anffurfiol am fod yn Ymddiriedolwr Blynyddoedd Cynnar Cymru, cysylltwch â Dave Goodger, Prif Swyddog Gweithredol, Blynyddoedd Cynnar Cymru ar:
E-bost: [email protected]
Ffôn: 07818 404222 neu 07806 617154