Dathliad o Sector y Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru a Gwobrau Blynyddoedd Cynnar Cymru 2023

Mae Gwobrau Blynyddoedd Cynnar Cymru yn ôl yn 2023 a gyda fformat newydd sbon!

Dathliad o Sector y Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru a Gwobrau Blynyddoedd Cynnar Cymru 2023
dydd Sadwrn, 10 Mehefin, 2023 - 09:30 to 16:00

Venue: 

Cardiff Marriott Hotel

Mae'n bleser gan Blynyddoedd Cynnar Cymru roi gwahoddiad i aelodau i ymuno â ni ar gyfer dathliad o'r Sector Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru wrth i ni hyrwyddo'r angerdd a'r ymroddiad a ddaw yn sgil ein haelodau i'r sector gofal plant yng Nghymru.

Gan gyfuno ein gwobrau blynyddol gyda rhaglen gyffrous o rai gwesteion arbennig iawn mae cynhadledd Blynyddoedd Cynnar Cymru yn gyfle perffaith i ymarferwyr ddod at ei gilydd i rwydweithio a chael eu hysbrydoli.

Mae ein siaradwyr wedi gadarnhau ...

Laura Henry-Allain MBE


Rôl llyfrau mewn gofad gwrth-hiliol

Mae Laura yn gynhychydd, storïwr, addysgwr ac ymgynghorydd rhyngwladol arobryn. Hi sydd wedi creu cymeriadau'r gyfres boblogaidd JoJo a Gran Gran, a ddatblygwyd ac a gynhyrchwyd gan CBeebies, a hi yw cynhyrchydd cyswllt y gyfres. 

Mae ei llyfr poblogaidd i blant, My Skin, Your Skin, wedi'i ddarlunio gan Onyinye Iwu, yn archwilio hil a hiliaeth, ac yn grymuso plant i fod y fersiynau gorau bosib ohonyn nhw eu hunain. 

Mae llyfr newydd, My Family, Your Family, yn llyfr ffeithiol pwerus sy'n canolbwyntio ar yr hyn sy'n gwneud teulu, yn archwilio sut mae gwahanol deuluoedd yn dod ei gilydd ac yn dathlu'r syniad bod pob teulu yn unigryw.

https://www.laurahenryallain.com

Alice Sharp


Y Parth Dychymyg

Mae Alice yn gyflwynydd ysbrydoledig ac ysgogol ar gyfer hyfforddiant blynyddoedd cynnar a datblygiad proffesiynol parhaus. Fel athrawes, crëwr, awdur, mam a dychmygwr, mae Alice yn enwog yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel arbenigwr ar arwain dysgu yn ystod plentyndod cynnar. 

Mae'r plentyn wrth galon popeth mae Alice yn ei wneud. Mae'n darpau hyfforddiant o ansawdd uchel sy'n drawdnewidiol o ran cynyddu dealltwriaeth a gwybodaeth staff am ddatblygiad a dysgu plant.

Nod Alice yw newid bywyd pob plentyn trwy gyflwyno profiadau addysg arloesol sy'n procio meddylaiu pobl sy'n gweithio gyda phlant ifanc. 

https://alicesharp.co.uk/adventures-with-alice/

Paul Isaacs


Bywyd fel salad ffrwythau - cyflwyniad i awtistiaeth

Mae Paul yn siaradwr, hyfforddwr, ymgynghorydd ac awdur ar awtistiaeth. Ers ei ddiagnosis yn 2012 yn 24 oed, mae Paul wedi goresgyn llawer o heriau ac mae bellach yn mwynhau llwyddiant yn eirioli ar ran y gymyned awtistig. 

Neges Paul yw bod Awtistiaeth yn gymysgedd cymhleth o ally ac anabledd. Mae'n credu'n gryf y dylai pob person Awtistig gael y cyfle i gyflawni ei botensial a chael ei ystyried yn aelod gwerthfawr o gymdeithas. 

https://www.autismcork.ie/paul-issacs-autism