Caru’r Iaith!

Teimlo wedi’ch nerthu i ddefnyddio'r Gymraeg ac ieithoedd eraill gyda Nia Beynon

Caru’r Iaith!
dydd Iau, 19 Ionawr, 2023 - 09:30 to 12:30

Venue: 

Canolfan Busnes a Thechnoleg Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7FN

Ydych chi erioed wedi ystyried sut beth yw siarad mwy nag un iaith? Dywed ymchwil fod gennym gyfle yn y blynyddoedd cynnar i gyflwyno iaith arall yn rhwydd i blant ac, mae hynny'n newid eu hymennydd mewn ffordd bositif am byth!

Yn y sesiwn hyfforddi hon, byddwn yn edrych ar fanteision dwyieithrwydd (a mwy!) ac os yw'n cael ei gyflwyno ar oedran cynnar, sut mae hyn yn gallu newid bywydau plant am byth.

Byddwch yn cael eich cyflwyno i ddetholiad ysbrydoledig o ganeuon, storïau a geiriau Cymraeg newydd y gallwch eu profi mewn amgylchedd diogel, yn barod at ddychwelyd at eich lleoliad i ymarfer gyda’r plant!

Cost: £20 Aelodau / £30 Rhai nad ydynt yn aelodau

This training is currently only delivered through English. Os hoffech chi ymuno, cliciwch ar Cofrestru a chwblhewch y ddesg dalu i sicrhau eich lle.



Aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru’n unig. Ddim yn aelod? Mae aelodaeth ar hyn o bryd AM DDIM, ewch at ein tudalen aelodaeth am ragor o fanylion.