Caiff Camau ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru am bob ymarferwr blynyddoedd cynnar, gofal plant a gwaith chwarae, sy'n golygu y bydd yn wastad rhad ac am i'r rhai sy'n gweithio yn y sectorau hynny.
Mae pob cwrs 10 uned yn cymryd tua 20 awr i'w gwblhau neu uchafswm o 10 wythnos, yn ddibynnol ar lefel iaith flaenorol y dysgwr. Mae'n RHAID i ddysgwyr gwblhau o leiaf un uned yr wythnos ond mae'n bosib y bydd y rhai sy'n meddu ar sgiliau Cymraeg blaenorol yn cwblhau nifer o unedau'r wythnos.
Mae 7 cwrs ar gael;
- Mynediad Blynyddoedd Cynnar 1 Gogledd (Unedau 1-10)
- Mynediad Blynyddoedd Cynnar 1 De (Unedau 1-10)
- Mynediad Blynyddoedd Cynnar 2 Gogledd (Unedau 11-20)
- Mynediad Blynyddoedd Cynnar 2 De (Unedau 11-20)
- Mynediad Blynyddoedd Cynnar 3 Gogledd (Unedau 21-30)
- Mynediad Blynyddoedd Cynnar 3 De (Unedau 21-30)
- Mynediad Gwaith Chwarae 1 (Unedau 1-10)
- Mynediad Gwaith Chwarae 2 (Unedau 11-20)
Bydd cyrsiau Lefel Sylfaen ac Adeiladu Hyder yn cael eu lansio yn 2023.
Gan ei fod yn bwrpasol i'r sectorau blynyddoedd cynnar, gofal plant a gwaith chwarae a'i datblygu gan ymarferwyr a thiwtoriaid sydd â phrofiad uniongyrchol, mae'r iaith a ddysgir yn canolbwyntio ar iaith a ddefnyddir drwy gydol arferion dyddiol mewn lleoliadau.
Mae gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol nifer o sesiynau blasu byr rad ac am ddim, ac mae un ohonynt wedi'i deilwra'r sectorau blynyddoedd cynnar, gofal plant a gwaith chwarae o'r enw ' Gwybodaeth am y Gymraeg'.