Blog: Cymru Wrth Hiliol

Cymru Wrth Hiliol

Ychydig dros flwyddyn sydd yna ers marwolaeth drasig George Floyd a’r ysgytwad a dreiddiodd trwy gymdeithas yr Unol Daleithiau a gwledydd Prydain ar ôl hynny, ac mae’n werth ystyried y newidiadau positif y mae hynny wedi’i achosi yng Nghymru a rhan blynyddoedd cynnar yn hynny.

Heb os, ni ddylai fod angen trychineb fel hyn i bob un ohonom ystyried ein dyletswydd, fel unigolion ac ar y cyd, i sefyll dros unrhyw grŵp neu unigolion sy’n cael eu hymylu a’u targedu oherwydd rhagfarnau. Rydym ni i gyd wedi gweld y protestiadau a’r baneri ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn diwethaf, ond pan fydd pethau wedi tawelu a’r ‘dwndwr’ ar hyn o bryd wedi diflannu, pa newidiadau sylfaenol a systematig fydd yna i wneud bywyd yn well i bawb o bob hil ac ethnigrwydd yn ein cymdeithas?

Roedd yr adroddiad ynghylch cyfraniadau BAME[1] i addysg a gafodd ei gomisiynu gan y Gweinidog Addysg ar y pryd, Kirsty Williams AoS, ac yn cael ei arwain gan yr Athro Charlotte Williams, yn gam i’w groesawu ac yn gyfle i bob addysgwr yng Nghymru ystyried beth rydym ni’n ei ddysgu, pam ein bod ni’n dysgu hynny a beth mae’r dysgwyr yn ei gasglu o’n trafodaeth am hil ac ethnigrwydd yn ein lleoliadau addysg. Ar ôl darllen yr adroddiad dros dro, nid oedd yn syndod deall fod Kirsty Williams AoS a’r Cabinet yng Nghymru wedi derbyn holl argymhellion yr Athro Williams et al. Mae’r rhain yn cynnwys, sicrhau bod cyfraniadau arwyddocaol y gymuned BAME at fywyd yng Nghymru yn cael eu dangos a’u dysgu yn gytbwys ac yn an-symbolaidd. Er mwyn gwneud hynny, mae angen i ni wella ein sgiliau, ein rhai ni ein hunain a rhai ein hymarferwyr yng Nghymru; mae angen i ni wrando ar brofiadau byw y bobl o’r cymunedau rydym yn eu dysgu; ac mae angen i ni sicrhau fod pob person ifanc yn gweld eu diwylliant a’u gwerthoedd yn cael eu cynrychioli yn y lleoedd rydym yn addysgu. Mae angen i ni, dros amser, ddatblygu'r gweithlu i gynyddu’r gynrychiolaeth o bobl o gefndir BAME ar bob lefel. A, thra bydd yr olaf (cynllunio strategol a datblygu gweithlu) yn cymryd amser, mae yna lawer o gamau y gallwn eu cymryd i wneud gwahaniaeth yn y tymor byr.

Nid yw’r adroddiad uchod yn bodoli ar ei ben ei hunan. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu Cymru Wrth Hiliol erbyn 2030[2]. Mae yna ffordd bell i fynd. Mae’r papur ymchwil diweddar, Show Us You Care[3], wedi’i baratoi a’i ysgrifennu gan bobl ifanc, yn dangos gymaint o heriau mae dysgwyr BAME yn eu hwynebu mewn ysgolion, rhai ond arlliw ond, yn anffodus, yn cael effaith barhaol ar y bobl ifanc sy’n cael eu targedu. Mae’n dangos y dylai addysgwyr ddeall effaith a nerth iaith a pheidio â bod mor barod i gymryd gwawdio hiliol fel hwyl neu jôc, yn enwedig yng nghyfnod addysg uwchradd. Mae’r adroddiad yn dweud fod rhai plant yn dod yn hiliol yn yr ysgol gynradd, yn bennaf trwy alw enwau neu wrth i blant gael eu gadael allan gan gyfoedion. Efallai, trwy hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol ein cymunedau yn y blynyddoedd cynnar, y gallwn ni leihau gwahaniaethu mewn ysgolion cynradd. Roedd y bobl ifanc a oedd yn cyfrannu’n datgan yn glir iawn nad oedd eu profiadau nhw mewn addysg yn dangos ‘cynrychiolaeth’; nad oedden nhw’n gweld eu hil, eu hethnigrwydd na’u crefydd yn y deunyddiau addysgiadol o’u cwmpas, eu disgrifiad o’r cwricwlwm oedd Ewro-ganolig. Unwaith eto, yn y blynyddoedd cynnar gallwn gofleidio a chreu gofodau sy’n cynrychioli pob diwylliant. Mae gwneud hynny’n gofyn i ni ystyried sut rydym yn gosod adnoddau yn ein gofodau a beth mae’r eitemau chwarae rydym yn eu gosod yn y gofodau’n ei gynrychioli. Ydyn nhw’n adlewyrchu mewn gwirionedd bywydau cartrefi a diwylliannau Cymru aml ddiwylliannol? Os nac ydyn nhw, sut allen ni ychwanegu mwy o amrywiaeth a chynrychiolaeth i alluogi plant ifanc i adnabod eu diwylliant yn eu lleoliad.

Yn olaf, mae awduron yr adroddiad yn sôn am ddyhead yr ymatebwyr i addysgwyr ‘ddod yn wrth hiliol’. Rwy’n cael fy nghalonogi gan gynllun Cymru Wrth Hiliol ac mae’r ymgynghoriad yn parhau hyd at 15 Gorffennaf i bob un ohonom ymateb iddo os ydym yn dymuno[4]. Mae’r ymgynghoriad hwn a’r cynllun yn dangos fod yr agenda yng Nghymru’n cael ei gosod er mwyn trawsnewid y ffordd y mae’n polisïau a’n sefydliadau’n gweithio i sicrhau cydraddoldeb i bawb. Wrth i ni ddatblygu’n hymarferion a’n polisïau, ystyried beth rydym yn ei wneud a beth nad ydym yn ei wneud, mae gwrando ar brofiadau byw pobl o bob hil, ethnigrwydd a chrefydd yn fan cychwyn da. Er mwyn cefnogi ymarferwyr blynyddoedd cynnar gyda hyn, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru wedi datblygu cyfres o webinarau gydag ymarferwyr blynyddoedd cynnar profiadol. Mae’r cyfleoedd cyffrous hyn i ystyried addysgeg ac ymarfer mewn amgylcheddau dysgu sy’n gefnogol ac yn ddiogel yn gallu ein helpu i ddysgu ac i ddatblygu gyda’n gilydd. Mae rhagor o fanylion ynghylch y gyfres o ddigwyddiadau a sut i ymuno yma, mae lleoedd yn brin ac yn rhad ac am ddim i leoliadau sy’n aelodau.

Wrth i Gymru’n ymgynghori a gweithio tuag at gynllun gwrth hiliol i Gymru, rwy’n ymrwymo Blynyddoedd Cynnar Cymru i gefnogi hyn mewn polisi, ymarfer a gweithred oherwydd, yn fy marn i, os nad ydym yn dweud ein bod wedi ymrwymo i fod yn wlad wrth hiliol, beth ydym yn ei ddweud?

Early Years Wales is delighted to bring you an all-new seminar series working directly with some of the contributing authors to the Black, Asian, and Minority Ethnic Communities Contribution and Cyefin in the New Curriculum report.

For more information please visit: https://www.earlyyears.wales/en/events

Cyfeiriadau:

1. https://llyw.cymru/y-gweinidog-yn-croesawur-adroddiad-addysg-ar-gymunedau-duon-asiaidd-lleiafrifoedd-ethnig

2. https://llyw.cymru/cynllun-gweithredu-cydraddoldeb-hiliol-cymru-wrth-hiliol?_ga=2.213838870.364259158.1624268937-1188531892.1621847246

3. file:///C:/Users/David%20Goodger/Downloads/Show-Us-You-Care-Executive-Summary-Welsh%20(1).pdf

4. https://llyw.cymru/cynllun-gweithredu-cydraddoldeb-hiliol-cymru-wrth-hiliol?_ga=2.247974917.364259158.1624268937-1188531892.1621847246

 

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)