Venue:
Rhannau Rhydd – Pam? Beth? Sut? Cyfleoedd dysgu eithaf yn y blynyddoedd cynnar.
Fe wyddom nad yw hwn yn syniad newydd, ond gallai fod yr adnodd chwarae nad yw’n derbyn y sylw dyladwy yn y sector blynyddoedd cynnar! Os ydych yn credu fod plant angen cyfle i gael eu cyflwyno gyda chyfleoedd di-ri er mwyn dylunio, creu a dysgu ond yn ansicr ble i ddechrau neu eisiau dysgu sut mae plant yn elwa go iawn o chwarae rhannau rhydd, yna dewch draw i'r sesiwn hon i gael eich ysbrydoli ymhellach!
Dysgwch sut mae’r ymarfer gorau yma’n gallu cael ei gyflwyno yn eich amgylchedd blynyddoedd cynnar chi bron am ddim cost neu’n hollol am ddim, a sut y gallwch chi fel oedolyn cefnogol, ddod i ddeall yn well sut mae plant yn gallu cael eu cefnogi yn eu chwarae i wella canlyniadau ‘dysgu ac addysgu’.
£5 Aelodau
£25 Rhai nad ydynt yn aelodau
Ar hyn o bryd dim ond trwy'r Saesneg y caiff yr hyfforddiant hwn ei ddarparu.
Os hoffech chi ymuno, cliciwch ar Cofrestru a chwblhewch y ddesg dalu i sicrhau eich lle.
Aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru’n unig. Ddim yn aelod? Mae aelodaeth ar hyn o bryd AM DDIM, ewch at ein tudalen aelodaeth am ragor o fanylion.