Babi Actif

Mae’r hyfforddiant yn archwilio mewn dyfnder, datblygiad corfforol a llythrennedd corfforol babanod a phlant ifanc yn ystod eu 1,000 diwrnod cyntaf

Children sitting on the top of the bay
dydd Mercher, 3 Mai, 2023 - 17:30 to 20:30

Venue: 

Ar-lein

Mae’n cefnogi’r dadansoddiad ynghylch pam fod ots am symudiad a gweithgaredd corfforol yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf, gan gyfeirio at elfennau mae angen i blant ifanc eu creu er mwyn sicrhau synnwyr ohonyn nhw yn eu cyrff, yn eu perthynasau unigryw eu hunain gyda'r amgylchedd a'r oedolion arwyddocaol a deunyddiau o fewn yr amgylchedd. Byddwch yn cynllunio ar gyfer ymarferion chwarae symud ar hap ac wedi’u harwain y tu fewn ac yn yr awyr agored, sy’n cefnogi patrymau symud unigryw babanod a phlant ifanc a’u datblygiad niwroffisiolegol unigryw. Bydd yr holl gyfranogwyr yn derbyn pecyn adnodd Babi Actif a Chi i fynd adre gyda nhw.

£5 Aelodau
£25 Rhai nad ydynt yn aelodau

Ar hyn o bryd dim ond trwy'r Saesneg y caiff yr hyfforddiant hwn ei ddarparu.

 Os hoffech chi ymuno, cliciwch ar Cofrestru a chwblhewch y ddesg dalu i sicrhau eich lle.
 


Aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru’n unig. Ddim yn aelod? Mae aelodaeth ar hyn o bryd AM DDIM, ewch at ein tudalen aelodaeth am ragor o fanylion.