Category: 

smalltalk - hydref 2021

smalltalk ... yn cefnogi'r sector blynyddoedd cynnar yng Nghymru am dros 30 mlynedd.

Cyhoeddwyd bob chwarter ers gwanwyn 1986, a'i bostio am ddim i holl aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru. smalltalk yw'r teitl y mae'n rhaid ei ddarllen ar gyfer darparwyr addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

P'un a ydych chi'n chwilio am syniadau i'w gweithredu yn y lleoliad neu i'ch helpu gyda'ch hyfforddiant a'ch datblygiad, am gael y wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau cwricwlwm neu'r newidiadau diweddaraf mewn deddfwriaeth, mae ein cylchgrawn 64-dudalen, cwbl ddwyieithog, lliw llawn, yn llawn dop o erthyglau i'ch ysbrydoli i wreiddio a llywio ymarfer o ansawdd uchel, wrth barhau i redeg busnes llwyddiannus.

Croeso i rifyn yr hydref o smalltalk

Heb ddatgan beth sy’n amlwg, rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi ein bod yn ôl mewn print, ac, am y tro cyntaf erioed, rydym yn eich croesawu’n ddwyieithog. Pan oedden ni’n diffodd y gweisg yr haf diwethaf, roedden ni’n pwysleisio na fyddai hynny am byth.

Rydym mor ddiolchgar i chi am eich cefnogaeth pan oedden ni’n troi’n ddigidol, roedd hynny’n ein galluogi i gyhoeddi’r holl gynnwys gwych rydych yn ei ddisgwyl gennym, a hynny yn Gymraeg hefyd. Roeddwn i mor falch fod y cylchgrawn yn cael ei dderbyn yn ei fformat Saesneg ac yn ei fformat Cymraeg, a daeth yn amlwg fod yn rhaid i ni gymryd y cam nesaf a’i argraffu’n ddwyieithog. Rwy’n siŵr y bydd y rhan fwyaf o bobl yn cytuno nad oes unrhyw beth gwell na darllen copi go iawn dros baned. 

Dyma ragflas o'r hyn sydd y tu mewn ...

4. Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Nid yw gorfod ymdrin â phroblemau diogelu byth yn hawdd, ond mae’n bwysig gwybod beth i’w wneud a phryd i’w wneud. Rydym yn amlygu’ch cyfrifoldebau cyfreithiol.

6. Stori glawr: Cyrraedd eich llawn botensial

Pam fod datblygiad proffesiynol parhaus yn bwysig

7. Dysgwr y Flwyddyn Blynyddoedd Cynnar Cymru 2020: Y gyfrinach i lwyddiant yw angerdd

Rydym yn dathlu cyraeddiadau Sandra Stait, ein Dysgwr y Flwyddyn 2020.

8. Cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy; plant iach a hapus am oes

Sut mae’r Cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy’n ffordd berffaith i gael teuluoedd a phlant yn iach ac yn actif.

10. Siarad Gyda Fi: Cynllun Darparu Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu

Llywodraeth Cymru’n egluro sut y bydd plant yng Nghymru’n cael eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu yn ystod eu blynyddoedd cynnar.

13. City & Guilds a CBAC - Pwysigrwydd gofal plant i economi Cymru

Amlygodd y pandemig pa mor hanfodol y mae’r sector gofal plant i fusnesau Cymru – mae’n rhaid cael pobl wedi’u hyfforddi a’u cymhwyso i safon uchel.

14. Gweithwyr allweddol gofal dydd – yr arwyr di-glod

Mae Hyfforddiant Educ8 yn ein cyflwyno i rai o’u dysgwyr sydd wedi bod yn cymhwyso yn ystod y cyfnod clo.

15. Allan, allan... Digwyddiad Gwarchodwyr Plant Casnewydd

Ein tîm Casnewydd yn sôn wrthym am gael hwyl gyda’n haelodau gwarchodwyr plant.

16. Edrych ar ôl eich llesiant ariannol

Mae’r 18 mis diwethaf wedi dangos i ni nad oes gennym ni ddim syniad beth sydd rownd y gornel nesaf. Mae arbenigwyr pensiynau Demna Consulting Ltd yn trafod gyda ni bwysigrwydd cynllunio ar gyfer yr annisgwyl.

19. Edrych Dweud Canu Chwarae

Edrych Dweud Canu Chwarae yw ymgyrch adeiladu ymennydd babi NSPCC Cymru. Mae Emma Motherwell yn egluro sut y mae pobl broffesiynol yn ei defnyddio i helpu rhieni i gefnogi datblygiad eu babi.

22. Booktrust Cymru: awgrymiadau gorau ar gyfer darllen gyda phlant ifanc

Sut i wneud darllen gyda phlant yn hwyl.

24. Blynyddoedd Cynnar Actif Cymru: gweithio mewn partneriaeth â Booktrust Cymru

Sut, trwy’r rhodd o lyfrau, rydyn ni wedi gallu hyrwyddo symud ac iaith mewn cartrefi ledled Cymru.

26. Y Cyfnod Sylfaen: Pwnc Trafod Chwarae mentrus yn yr awyr agored a datblygu sgema yn y blynyddoedd cynnar (rhan un)

Y gyntaf mewn cyfres ddwy ran o erthyglau yn trafod chwarae mentrus yn yr awyr agored a datblygu sgema yn y Blynyddoedd Cynnar.

31. Arian i Flynyddoedd Cynnar

Ydych chi eisiau tyfu’ch busnes? Mae gan Busnes Cymru a’r Banc Datblygu Cymru y gefnogaeth a’r arian a allai helpu.
 


Aelodau: peidiwch ag anghofio mewngofnodi cyn ychwanegu eitemau at eich cart i ddefnyddio eich gostyngiad aelod. I gofrestru fel aelod ewch i'n tudalen aelodaeth.

£1.00