Category:
smalltalk - hydref 2020




smalltalk ... yn cefnogi'r sector blynyddoedd cynnar yng Nghymru am dros 30 mlynedd.
Cyhoeddwyd bob chwarter ers gwanwyn 1986, a'i bostio am ddim i holl aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru. smalltalk yw'r teitl y mae'n rhaid ei ddarllen ar gyfer darparwyr addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
P'un a ydych chi'n chwilio am syniadau i'w gweithredu yn y lleoliad neu i'ch helpu gyda'ch hyfforddiant a'ch datblygiad, am gael y wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau cwricwlwm neu'r newidiadau diweddaraf mewn deddfwriaeth, mae ein cylchgrawn 28 dudalen lliw llawn, yn llawn dop o erthyglau i'ch ysbrydoli i wreiddio a llywio ymarfer o ansawdd uchel, wrth barhau i redeg busnes llwyddiannus.
Croeso i rifyn yr hydref o smalltalk
Yn y rhifyn hwn rydyn ni’n eich dathlu chi, fel arweinwyr ac ymarferwyr. Yn ystod y cyfnod clo rydych chi wedi rhoi cipolwg clir, ‘pry ar y wal’, i ni ar redeg eich lleoliadau – yr uchelfannau, yr iselfannau, yr heriau, eich emosiynau. Rydych chi wedi bod yn agored ac yn onest ynghylch a yw’r newidiadau yn ein canllawiau wedi helpu neu heb helpu, heb fyth dynnu eich llygad oddi ar y plant rydych yn gofalu amdanyn nhw.
tu mewn
4. Barcutiaid Cymru’n Actif Gyda’n Gilydd yn hedfan yn uchel uwchben Casnewydd
Am ddiwrnod hyfryd i groesawu teuluoedd yn ôl i raglen Cymru’n Actif Gyda’n Gilydd.
5. Diweddariad hyfforddi: Hyfforddiant rhithiol newydd ‘Babi Actif a Chi’.
Gyda'n cwrs newydd, mae ymarferwyr yn gallu datblygu dulliau aml sgiliau o sefydlu gweithgaredd corfforol mewn ymarfer bob dydd.
6. Pwysigrwydd llywodraethu da
Ydych chi’n ansicr o strwythur cyfreithiol eich sefydliad neu’n cael trafferth gyda’ch cyfansoddiad? Mae ein tîm Llywodraethu yma i’ch helpu. Gallai cael hyn yn anghywir fod yn gostus.
8. Y manteision o fynd â'r rhai bach i nofio.
Wrth i byllau nofio ail agor, mae gan Hanna Guise, Rheolwr Cenedlaethol Dysgu Nofio, Nofio Cymru, rai o'i hawgrymiadau gorau i chi ar gyfer cyflwyno'r rhai bach i'r dŵr.
12. Arweinyddiaeth Effeithiol yn y Cyfnod Sylfaen: Cefnogi trosglwyddiadau unigryw a phosibiliadau newydd mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar ar adeg cymhleth.
Astudiaethau achos aelodau sy’n trafod sut mae arweinyddiaeth effeithiol a gofalgar yn ystod y cyfnod clo wedi cael effaith bositif ar drosglwyddiadau unigryw i blant, eu teuluoedd, eu hymarferwyr a chymunedau.
13. Canolbwyntio ar: Anghenion Dysgu Ychwanegol; setlo mewn
Bydd llawer o blant yn mynd yn ôl i leoliadau gofal a fydd yn edrych ac yn teimlo'n wahanol iawn a gallai’r broses o wahanu oddi wrth rieni a gofalwyr fod yn anodd ar ôl treulio cymaint o amser yn gaeth yn y cyfnod clo. Mae’n bwysig cael cynllun sy’n hyblyg ac yn gallu ymateb i anghenion y plentyn a'r lleoliad - rydyn ni wedi casglu rhai pwyntiau at ei gilydd i chi eu hystyried.
19. Rhannu Ymarfer Ansawdd Rhan 1: Arweinyddiaeth a rheoli
Hon yw’r gyntaf o erthyglau y byddwn ni’n eu rhannu ac yn amlygu’r creadigedd a’r arloesedd sy’n dilyn o’r ymarfer ardderchog y mae aseswyr Ansawdd i Bawb Blynyddoedd Cynnar Cymru yn ei weld yn ystod ymweliadau asesu.
23. Canolfan Ragoriaeth Cysylltu Ieuenctid Plant ac Oedolion – ffordd newydd ymlaen
Sut y mae gosod pwyslais arbennig ar lesiant, hyfforddiant ac arweinyddiaeth effeithiol staff yn gallu eich paratoi ar gyfer yr annisgwyl wrth symud ymlaen.
26. Booktrust Cymru: deall eich hawlfraint wrth adrodd stori ar lein
Awgrymiadau gorau i’w hystyried wrth rannu llyfrau, rhigymau a chaneuon ar lein
---------------------------------------------------
Members: don't forget to log in prior to adding items to your cart to access this product for free, your account has been set up for you. Simply request a new password to access your account for the first time.
To become a member visit our membership page.