Mae'r adnodd wedi'i greu i roi ysbrydoliaeth ar gyfer datblygiadau o fewn lleoliadau blynyddoedd cynnar ac i'r rhai sy'n gweithio neu'n treulio amser gyda phlant ifanc. Gellir lawrlwytho cyfres o ddeg poster yn seiliedig ar amgylchedd y blynyddoedd cynnar ac a gyflwynir yn electronig, a'u hargraffu i'w harddangos yn y lleoliad a'u defnyddio fel canllaw ar gyfer datblygiad proffesiynol.
Mae'r fideo yn dangos sut y gall yr adnoddau ddylanwadu ar ddarpariaeth ac ymarfer blynyddoedd cynnar. Mae Meithrinfa Wibli Wobli yn tynnu sylw at yr effaith y mae'r adnodd wedi'i chael ar eu hymarfer a'u darpariaeth, gan roi sylw arbennig i'r poster 'profiadau yn yr awyr agored'.