Rheolydd (Dros gyfnod mamolaeth)
Arwain, rheoli a chymeryd rhan ym mhob agwedd o weithgareddau'r Feithrinfa gan sicrhau bod y sefydliad yn bodloni'r holl ofynion cyfreithiol a statudol trwy gael dealltwriaeth dda o ofynion rheoleiddiol ac ymarferol.
Arwain a rheoli'r staff gyda chydweithrediad ac ar ran y Bwrdd Rheoli gan weithredu o fewn polisiau cyflogaeth y Feithrinfa
Sicrhau cydymffurfiaeth â'r Ddeddf Blant, deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a gofynion statudol AGC.
Datblygu'r Feithrinfa a'r gwasanaeth i gyd-fynd â datblygiadau arloesol yn y maes gofal plant Marchnata'r gwasanaeth yn effeithiol er mwyn sicrhau dyfydol y gwasanaeth drwy gynnal a chynyddu niferoedd plant
Cynnal a chadarnhau enw da y feithrinfa yn lleol bob amser drwy annog ymddygiad a disgwylidau priodol gan y staff ac arwain drwy esiampl.
Gweithio yn effeithiol gyda'r Bwrdd Rheoli er mwyn cyflwyno gwyneb unedig i'r staff pob amser Cyd-weithredu gydag asiantaethau allanol a chynnal dogfenaeth gywir o'r holl gyfathrebu a gwybodaeth.
Bod yn Berson Arweiniol dros Amddiffyn Plant a sicrhau bod unrhyw bryderon amddiffyn plant yn cael eu gweithredu ar unwaith ac yn briodol.
Bod yn Berson Arweiniol dros ADY a sicrhau bod y polisi ADY yn cael ei weithredu yn briodol.
Hyd at 38 awr
Cysylltwch a Sophie Wyn Owen, Rheolwr am fwy o fanylion neu sgwrs anffurfiol. 01286 882 552 07398545083 [email protected]
Ffurflen Gais: