Goruchwyliwr Crèche a Gofal Plant Sir y Fflint
Bydd deiliad y swydd hyblyg hon yn gyfrifol am ofalu am yr holl blant fel grŵp neu ar sail un i un o fewn ein lleoliadau, hyrwyddo eu datblygiad drwy chwarae a dysgu cynhwysol ac arwain staff o fewn y lleoliad i sicrhau y cyrhaeddir safonau uchel o fewn rheoliadau AGC, ECERS, ITERS a gofynion menter Cyn Ysgol Iach. Bydd hefyd yn dangos arferion da ac yn arwain drwy esiampl.
Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant gyda llwyddiant blaenorol o ddangos eu gallu fel Arweinydd Lleoliad, sy'n gallu helpu Arweinydd Gwasanaeth Crèche a Gofal Plant Sir y Fflint i gyflawni darpariaeth o ansawdd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi cyflawni o leiaf CCLD/CCPLD Lefel 3 neu gyfwerth gyda phrofiad y gallant ei ddangos o weithio mewn lleoliad gofal plant. Bydd angen cymwysterau ychwanegol sy'n gysylltiedig â chwarae/ ymrwymiad i weithio tuag at gymhwyster chwarae.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol. Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus hawl i wyliau hael, pensiwn, gostyngiadau gyda channoedd o fanwerthwyr ledled y DU, polisïau ystyriol o deuluoedd a chydbwysedd bywyd a gwaith, cyfleoedd datblygu a llawer mwy.
Gan y bydd y swydd hon yn golygu y bydd gennych chi lawer o gyswllt â phlant, bydd rhaid i chi gael eich gwirio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhyddhad
I gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs am y swydd, cysylltwch â:
Victoria Anderson, Rgeolwr Datblygu Gofal Plant E-bost: [email protected]
