Ymarferwyr yn y cartref - tair gweminar

Nod y tair gweminar hyn yw cefnogi'r holl ymarferwyr yn y cartref a darparu lle proffesiynol ar gyfer dysgu a sgwrsio dan arweiniad Nia Beynon.

Children playing with a xylophone
dydd Iau, 15 Chwefror, 2024 - 18:30 to 20:00
dydd Iau, 22 Chwefror, 2024 - 18:30 to 20:00
dydd Iau, 29 Chwefror, 2024 - 18:30 to 20:00

Venue: 

Online

Sesiwn 1: Hwylio’r Don Ddysgu (15/02/24 - 18:30 - 20:00)

Adeiladu ar ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth, i wneud newidiadau yn ymarfer blynyddoedd cynnar y Cartref. Yn y sesiwn hon byddwn yn cymryd yr amser i archwilio gwybodaeth o ymchwil cyfredol blynyddoedd cynnar, a sut y gellir defnyddio ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth i'n cefnogi wrth ddarparu darpariaeth o ansawdd uchel.

Sesiwn 2: Creu Awyrgylch Addas (22/02/24 - 18:30 - 20:00)

Byddwn yn edrych ar greu awyrgylch blynyddoedd cynnar o safon lle gall plant ymarferwyr yn y cartref ffynnu. Manteisiwch ar y cyfle i fyfyrio ar newidiadau mewn ymarfer y blynyddoedd cynnar, a sut olwg sydd ar ddarpariaeth ansawdd yn yr 21ain Ganrif. Byddwn yn ymchwilio i bŵer y 'tri awyrgylch' a sut y gellir eu defnyddio i ysbrydoli ein hymarfer. I archwilio'r pethau am-negodiol i gyflawni'r canlyniadau gorau i blant.

Sesiwn 3: Caru’r Iaith! (29/02/24 - 18:30 - 20:00)

Mae ymchwil yn dweud wrthym fod gennym gyfle byr yn y blynyddoedd cynnar i gyflwyno iaith arall yn rhwydd i blant a bod hyn yn newid eu hymennydd mewn ffordd bositif.

Mae gan Lywodraeth Cymru strategaeth hirdymor i gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn hyn!

Y gyfrinach yw... does dim rhaid i chi siarad y Gymraeg yn rhugl i gyflawni hyn! Gadewch i ni gymryd un cam ar y tro - trochi ein traed yn y dŵr yn unig ar gam hyn!

Byddwn yn edrych ar fanteision dwyieithrwydd ac, os caiff ei gyflwyno'n gynnar, sut y gall hyn newid sut mae plant yn byw eu bywydau am byth.

Cewch eich cyflwyno i ddetholiad ysbrydoledig o ganeuon, straeon newydd yn Gymraeg ac ieithoedd eraill i'n helpu i ddathlu Cymru amlieithog.

Cynnig arbennig i aeloddau: archebwch y tri am £50. Mae'r cynnig hwn yn berthnasol i'r hyfforddiant ymarferwyr yn y cartref yn unig. 

> Gellir archebu sesiynau hyfforddi ar wahân yma hefyd: cynllunydd hyfforddiant.

Os hoffech chi ymuno, cliciwch ar Cofrestru a chwblhewch y ddesg dalu i sicrhau eich lle am tair gweminar 

Un archeb fesul ffurflen. Os hoffech archebu mwy nag un person ar y tro, llenwch ffurflen archebu ar gyfer y mynychwr cyntaf, ychwanegwch at y cart ac yna dewiswch "parhau i siopa" i lenwi ffurflen archebu ar gyfer pob unigolyn sy'n mynychu. Unwaith y bydd yr holl ffurflenni archebu wedi'u cwblhau, parhewch i dalu.

Telerau ac Amodau

Drwy gymryd rhan yn yr hyfforddiant hwn, rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen a chytuno â Pholisi Preifatrwydd Blynyddoedd Cynnar CymruTelerau Defnyddio a Thelerau ac Amodau

Iaith

Bydd Diogelu – Categori B yn cael ei gyflwyno drwy'r Saesneg. Os oes angen gwasanaeth dehongli Saesneg – Cymraeg, nodwch eich dewis iaith ar y ffurflen archebu

*Sylwer, bydd gwasanaeth dehongli dim ond ar gael pan fydd o leiaf 20% o'r mynychwyr wedi nodi bod angen un arnynt.


Ddim yn aelod? Mae aelodaeth ar hyn o bryd AM DDIM, ewch at ein tudalen aelodaeth am ragor o fanylion.