Venue:
Rhywbryd yn ôl, nododd Llywodraeth Cymru y bydden nhw'n ystyried cofrestru'r gweithlu gofal plant yng Nghymru yn broffesiynol. Mae gweithluoedd proffesiynol eraill eisoes wedi'u cofrestru, megis athrawon a chynorthwywyr addysgu, gweithlu gofal cymdeithasol a llawer o ddiwydiannau proffesiynol eraill. Mae'r gweithlu gofal plant yn yr Alban, er enghraifft, yn weithlu cofrestredig.
Agorodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad i'r cysyniad o gofrestr broffesiynol ar 30 Tachwedd 2023. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn para tan 7 Mawrth 2024. Dyma' ch cyfle i rannu eich barn gyda Llywodraeth Cymru am eich canfyddiadau o gofrestriad proffesiynol.
Mae'r ymgynghoriad yn ceisio darganfod a ddylai'r sector fod â chofrestr broffesiynol, ac os felly, pwy ddylai fod yn ofynnol iddynt gofrestru. Mae'n amlinellu rhai o'r rhesymeg sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cynnig hwn ac arwyddion o'r hyn y gallai hyn gostio i unigolion.
Er mwyn helpu i rannu mwy o wybodaeth am yr ymgynghoriad cofrestru proffesiynol, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru yn cynnal dwy Sgwrs Broffesiynol i aelodau fynychu
Am ddim i aelodau
Os hoffech chi ymuno, cliciwch ar Cofrestru a chwblhewch y ddesg dalu i sicrhau eich lle.
Telerau ac Amodau
Drwy gymryd rhan yn yr hyfforddiant hwn, rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen a chytuno â Pholisi Preifatrwydd Blynyddoedd Cynnar Cymru, Telerau Defnyddio a Thelerau ac Amodau
Iaith
Bydd Nodau Natur yn cael ei gyflwyno drwy'r Saesneg. Os oes angen gwasanaeth dehongli Saesneg – Cymraeg, nodwch eich dewis iaith ar y ffurflen archebu
*Sylwer, bydd gwasanaeth dehongli dim ond ar gael pan fydd o leiaf 20% o'r mynychwyr wedi nodi bod angen un arnynt.
Ddim yn aelod? Mae aelodaeth ar hyn o bryd AM DDIM, ewch at ein tudalen aelodaeth am ragor o fanylion.