Venue:
Cyflwynir hyn fel dwy sesiwn ar-lein 90 munud. Bydd ymarferwyr yn derbyn cyfnodolyn adlewyrchol digidol a disgwylir iddynt gwblhau hyn fel rhan o'r cwrs. Bydd rhywfaint o ymchwil cyn y cwrs a thasg bwlch rhwng wythnos 1 a 2.
Gan weithio gyda lleoliadau'r Blynyddoedd Cynnar sy'n magu'r ieuengaf o'n cymdeithas, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru yn gwybod bod cyflwyno taith wrth-hiliol i fabanod a phlant ifanc ar y cyfle cyntaf yn bwysig iawn; mae angen mynd i'r afael â sut y caiff hyn ei gyflwyno mewn ffordd wahanol i sut mae plant hŷn yn aml yn cael eu cyflwyno i ddiwylliannau ac arferion nad yw plant efallai wedi dod i gysylltiad â nhw eto.
Gan gymryd ein hamser i siarad â'r sector blynyddoedd cynnar am eu hanghenion, rydym wedi datblygu dau fodiwl hyfforddi ac wyth set o adnoddau Bydd y rhain yn cefnogi rheolwyr ac arweinwyr yn y bwlch 0 – 4 i edrych ar y daith hon trwy lygaid plentyn. Datblygwyd yr adnoddau i hyrwyddo ymarfer myfyriol a chefnogi'r holl staff ar eu taith wrth-hiliol.
Mae'n hanfodol ein bod yn cyflwyno'r trafodaethau hyn ac amgylcheddau dysgu cadarnhaol cyn gynted â phosibl a bod plant mewn amgylchedd sy'n cofleidio dull gwrth-hiliol sy'n cael effaith uniongyrchol ar y farn y byddant yn ei ffurfio trwy gydol eu hoes.
- Deall yr effaith gadarnhaol ar bob plentyn o hyrwyddo arfer gwrth-hiliol yn y blynyddoedd cynnar.
- I ddechrau deall pam mae angen ymgorffori arfer gwrth-hiliol yn y blynyddoedd cynnar.
- I ddechrau ar eich taith tuag at ddod yn ymarferwyr ac arweinwyr gwrth-hiliol.
- Datblygu dull gwrth-hiliol yn y lleoliad, drwy rannu gwybodaeth i'r tîm staff gan ddefnyddio'r adnoddau a ddarperir.
- Symud o arfer 'anhiliol' i arfer 'gwrth-hiliol': Llyfryn cyflwyno ac adfyfyrio
- Gweledigaeth a Gwerthoedd / Offeryn Archwilio Lleoliadau
- Lawrthiad digidol o'r PowerPoint
- Lawrthiad digidol o'r cardiau senario i ddefnyddio fel offeryn hyfforddi staff
- Dolenni’i deunyddiau darllen.
*ar ôl cwblhaur hyfforddiant
Am Ddim i Arweinwyr a Rheolwyr
Os hoffech chi ymuno, cliciwch ar Cofrestru a chwblhewch y ddesg dalu i sicrhau eich lle.
Un archeb fesul ffurflen. Os hoffech archebu mwy nag un person ar y tro, llenwch ffurflen archebu ar gyfer y mynychwr cyntaf, ychwanegwch at y cart ac yna dewiswch "parhau i siopa" i lenwi ffurflen archebu ar gyfer pob unigolyn sy'n mynychu. Unwaith y bydd yr holl ffurflenni archebu wedi'u cwblhau, parhewch i dalu.
Telerau ac Amodau
Drwy gymryd rhan yn yr hyfforddiant hwn, rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen a chytuno â Pholisi Preifatrwydd Blynyddoedd Cynnar Cymru, Telerau Defnyddio a Thelerau ac Amodau
Iaith
Bydd digwyddiad yn cael ei gyflwyno drwy'r Saesneg. Os oes angen gwasanaeth dehongli Saesneg – Cymraeg, nodwch eich dewis iaith ar y ffurflen archebu
*Sylwer, bydd gwasanaeth dehongli dim ond ar gael pan fydd o leiaf 20% o'r mynychwyr wedi nodi bod angen un arnynt.
Ddim yn aelod? Mae aelodaeth ar hyn o bryd AM DDIM, ewch at ein tudalen aelodaeth am ragor o fanylion.