Venue:
Mae ymchwil yn dweud wrthym fod gennym gyfle byr yn y blynyddoedd cynnar i gyflwyno iaith arall yn rhwydd i blant a bod hyn yn newid eu hymennydd mewn ffordd bositif.
Mae gan Lywodraeth Cymru strategaeth hirdymor i gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn hyn!
Y gyfrinach yw... does dim rhaid i chi siarad y Gymraeg yn rhugl i gyflawni hyn! Gadewch i ni gymryd un cam ar y tro - trochi ein traed yn y dŵr yn unig ar gam hyn!
Byddwn yn edrych ar fanteision dwyieithrwydd ac, os caiff ei gyflwyno'n gynnar, sut y gall hyn newid sut mae plant yn byw eu bywydau am byth. Cewch eich cyflwyno i ddetholiad ysbrydoledig o ganeuon, straeon newydd yn Gymraeg ac ieithoedd eraill i'n helpu i ddathlu Cymru amlieithog.
£20 Aelodau
£35 Rhai nad ydyntyn aelodau
Cynnig arbennig: archebwch y tri am £50. Mae'r cynnig hwn yn berthnasol i'r hyfforddiant ymarferwyr yn y cartref yn unig. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Os hoffech chi ymuno, cliciwch ar Cofrestru a chwblhewch y ddesg dalu i sicrhau eich lle.
Un archeb fesul ffurflen. Os hoffech archebu mwy nag un person ar y tro, llenwch ffurflen archebu ar gyfer y mynychwr cyntaf, ychwanegwch at y cart ac yna dewiswch "parhau i siopa" i lenwi ffurflen archebu ar gyfer pob unigolyn sy'n mynychu. Unwaith y bydd yr holl ffurflenni archebu wedi'u cwblhau, parhewch i dalu.
Telerau ac Amodau
Drwy gymryd rhan yn yr hyfforddiant hwn, rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen a chytuno â Pholisi Preifatrwydd Blynyddoedd Cynnar Cymru, Telerau Defnyddio a Thelerau ac Amodau
Iaith
Bydd Diogelu – Categori B yn cael ei gyflwyno drwy'r Saesneg. Os oes angen gwasanaeth dehongli Saesneg – Cymraeg, nodwch eich dewis iaith ar y ffurflen archebu
*Sylwer, bydd gwasanaeth dehongli dim ond ar gael pan fydd o leiaf 20% o'r mynychwyr wedi nodi bod angen un arnynt.
Ddim yn aelod? Mae aelodaeth ar hyn o bryd AM DDIM, ewch at ein tudalen aelodaeth am ragor o fanylion.