Venue:
Mae Llywodraeth Cymru wedi agor ymgynghoriad ar eu newidiadau arfaethedig i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir ar gyfer plant hyd at 12 oed.
Maent yn ymgynghori ar:
- Gofynion Cymorth Cyntaf (Safon 10)
- Gwarchodwyr plant sydd â chynorthwywyr (Safon 13) (Gwarchodwyr plant)
- Cymwysterau gofal plant darparwyr gofal dydd (Safon 13) (Gofal dydd)
- Aelod staff ychwanegol (Safon 15)
- Ansawdd (Safon 18)
- Diogelu (Safon 20)
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd yr ymgynghoriad hwn wrth lunio a mireinio'r rheolau y mae'n rhaid i chi gadw atynt ac rydym am eich cefnogi i sicrhau bod eich lleisiau'n cael eu clywed.
I wneud hyn, byddem wrth ein bodd yn clywed pa wahaniaeth rydych chi'n meddwl y bydd y newidiadau arfaethedig yn ei wneud i chi a'ch lleoliad. Ydych chi'n meddwl mai dyma'r newidiadau cywir i'w gwneud? Yn eich barn chi, beth yw'r goblygiadau cadarnhaol posibl ac a ydych yn credu y bydd canlyniadau anfwriadol i'r newidiadau hyn?
Dewch i drafod eich syniadau gyda ni, bydd pob cyfraniad yn cael ei werthfawrogi.
Os na allwch ddod i un o'n digwyddiadau ac os hoffech rannu eich barn am y newidiadau arfaethedig o hyd, mae croeso i chi anfon e-bost at Maggie [email protected] a fydd yn coladu ein hymateb i'r ymgynghoriad.
Aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru yn unig
Os hoffech chi ymuno, cliciwch ar Register i gadw eich lle. Bydd manylion ymuno’n cael eu e-bostio atoch yn nes at y dyddiad.
Un lle ar gyfer pob cyfeiriad e-bost.
Aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru’n unig. Ddim yn aelod? Mae aelodaeth ar hyn o bryd AM DDIM, ewch at ein tudalen aelodaeth am ragor o fanylion.