Datblygu Deallusrwydd Emosiynol yn y Blynyddoedd Cynnar

Yn dilyn ymlaen o'n Cynhadledd Rhagoriaeth Dysgu Sylfaen, rydym wrth ein boddau i groesawu cwrs tair rhan Catherine Corrie ar Ddatblygu Deallusrwydd Emosiynol yn y Blynyddoedd Cynnar.

Llesiant - Byddwch eich gorau eich hunain
dydd Mercher, 17 Mai, 2023 - 09:30 to 12:30
dydd Mercher, 7 Mehefin, 2023 - 09:30 to 12:30
dydd Mercher, 21 Mehefin, 2023 - 09:30 to 12:30

Venue: 

Ar-lein

Mae’r rhaglen hon yn rhoi cyfle i bobl sy'n gweithio gyda phlant ifanc ddatblygu'u sgiliau, eu galluoedd, eu deallusrwydd emosiynol eu hunain a dangos ymarfer gorau model rôl, hyd yn oed yn y sefyllfaoedd mwyaf heriol, gyda chysondeb.

  • Darganfod sut i greu diben ar gyfer unrhyw ryngweithio / cyfathrebu a fydd yn eich cefnogi chi a’r plant / cydweithwyr / rhieni i greu'r amgylchedd dysgu ysgogol, sy'n meithrin gorau ym mhawb.
  • Deall y modelau sy’n cael eu defnyddio ar y cwrs er mwyn eich galluogi chi i wneud y dewisiadau yn y funud a fydd yn eich cadw chi'r person rydych angen ei fod er mwyn gwireddu’ch diben.
  • Dysgwch sut i greu amgylchedd meddylgar
  • Gwybod sut mae strwythur yn gallu’ch cefnogi chi a’r plant i gael y gorau allan o’r amser rydych gyda nhw
  • Dod i ddeall eich teimladau chi ac eraill a’r ymddygiad a fydd yn eich helpu chi i fod â chysylltiad mwy cydymdeimladol.
  • Creu eich cynllun ar gyfer trosglwyddo dysgu'n ymarfer
  • Teimlo’n fwy hyderus mewn sefyllfaoedd anodd
  • I’ch galluogi chi i greu ‘Lle Pobl’ cynaliadwy

Nodwch – bydd angen i chi fod yn bresennol ym mhob un o’r tri ac mae angen cadw camerâu ymlaen ar gyfer y cwrs.

Mae rhifau ar gyfer y cwrs hwn yn gyfyngedig

£5 Aelodau
£90 Rhai nad ydynt yn aelodau

Ar hyn o bryd dim ond trwy'r Saesneg y caiff yr hyfforddiant hwn ei ddarparu.

Os hoffech chi ymuno, cliciwch ar Cofrestru a chwblhewch y ddesg dalu i sicrhau eich lle.



Aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru’n unig. Ddim yn aelod? Mae aelodaeth ar hyn o bryd AM DDIM, ewch at ein tudalen aelodaeth am ragor o fanylion.