Category:
Polisi a Gweithdrefnau– Y Pecyn Cyflawn I Aelodau’n Unig (Sampl)






Dim ond i aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru y mae’r pecynnau hyn ar gael*. Llawr lwythwch y samplau isod ac yna edrychwch ar ein tudalen aelodau i weld rhestr lawn o fuddion aelodaeth. Mae aelodaeth AM DDIM ar hyn o bryd!
Mae Pecyn Polisi a Gweithdrefnau Blynyddoedd Cynnar Cymru wedi’i ddiweddaru a'i wella i gefnogi aelodau gyda:
- Gweithdrefnau Gweithredu
- Derbyniadau a Diogelwch Plant
- Cydraddoldeb a Chyfranogiad
- Eiddo a Diogelwch
- Y Gymraeg, Diwylliant a'r Amgylchedd
Mae pob pecyn yn cynnwys canllawiau a ffurflenni enghreifftiol y gellir eu llawr lwytho i’ch arwain trwy’r prosesau y bydd yn rhaid i chi eu dilyn i ddiogelu’r plant yn eich gofal, eich sefydliad a'ch staff.
Yn cael eu cynnwys yn y pecynnau sydd ar gael ar wahân neu fel pecyn cyflawn:
Gweithdrefnau Gweithredu (£5)
Mae’r canlynol i’w cael yn y pecyn hwn:
- Cynllun Gweithredol
- Enghraifft o gontract rhwng y ddarpariaeth a’r rhieni a ffurflen gofrestru
- Datganiad o ddiben (gwybodaeth ynghylch ein darpariaeth)
Derbyniadau a Diogelwch Plant (£5)
Mae’r canlynol i’w cael yn y pecyn hwn:
- Polisi a gweithdrefnau derbyn, cyrraedd a chasglu, dygymod, methu â chasglu plentyn a phan fo plentyn ar goll
- Polisi a gweithdrefn rheoli ymddygiad (gan gynnwys gwrth fwlio)
- Polisi a gweithdrefn Amddiffyn a Diogelu plant
- Ffurflen awdurdodi a chofnod o feddyginiaeth
- Polisi a gweithdrefn meddyginiaeth (gan gynnwys trin asthma ac unrhyw gyflyrau meddygol parhaus)
Cydraddoldeb a Chyfranogiad (£5)
Mae’r canlynol i’w cael yn y pecyn hwn:
- Polisi a gweithdrefn cyfranogaeth plant
- Gweithdrefn gwynion a gweithdrefn cwynion gan blant
- Polisi a gweithdrefn preifatrwydd a chyfrinachedd
- Polisi a gweithdrefn cydraddoldeb a chynhwysedd (gan gynnwys anghenion addysgol ychwanegol / arbennig)
- Polisi a gweithdrefn cyfranogiad rhieni
Eiddo a Diogelwch (£5)
Mae’r canlynol i’w cael yn y pecyn hwn:
- Polisi a gweithdrefnau bwyd, diodydd a bwyta’n iach
- Polisi a gweithdrefn iechyd a hylendid
- Polisi a gweithdrefn iechyd a diogelwch (amgylchedd) a gwagio mewn argyfwng
- Polisi a gweithdrefn offer ac adnoddau chwarae
- Rhestr wirio iechyd a diogelwch eiddo ac offer
Y Gymraeg, Diwylliant a'r Amgylchedd (£5)
Mae’r canlynol i’w cael yn y pecyn hwn:
- Polisi a gweithdrefn edrych ar ôl ein hamgylchedd
- Tripiau: ffurflenni cynllunio, asesiad risg ac adolygu (I gyd-fynd â’r polisi a’r weithdrefn tripiau)
- Polisi tripiau
- Polisi a gweithdrefn defnyddio offer electronig, y cyfryngau a chyhoeddusrwydd
- Polisi a gweithdrefn y Gymraeg
Pecyn cyflawn (£20)
Eisoes yn aelod? Mewn gofnodwch i fynd at y pecynnau. I fynd at eich cyfrif y tro cyntaf, does ond rhaid gofyn am gyfrinair.