Camwch i'r Gymraeg drwy Chwarae, Symud a Straeon

Cymerwch eich camau cyntaf i'r Gymraeg gyda Blynyddoedd Cynnar Cymru wrth i ni archwilio symudiad, chwarae, adrodd straeon a llawer mwy yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. 

Adults playing with babies
dydd Gwener, 17 Ionawr, 2025 - 10:30 to 11:30
dydd Gwener, 17 Ionawr, 2025 - 12:00 to 13:00

Venue: 

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd, CF5 6XB

Mae'r sesiynau un awr hyn wedi'u hanelu at blant o bob oed, gyda sesiynau pwrpasol i blant 6 wythnos i 12 mis, a 12 mis ac i fyny a byddant yn defnyddio Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan i ddathlu iaith, treftadaeth a diwylliant unigryw Cymru.

Sesiwn 1: 6 wythnos i 12 mis (10:30 - 11:30)
Sesiwn 2: 12 mis+ (12:00 - 13:00)

Iaith: Darperir y sesiynau yn Saesneg ond gyda ffocws cryf ar gyflwyno geirfa ac ymadroddion Cymraeg y gallwch eu defnyddio gartref gyda'ch plentyn trwy chwarae a symud.

Byrbryd: Bydd byrbryd a diod iach ar gael i blant.

Yn rhad ac am ddim. 

Archebwch eich lle
dydd Gwener, 17 Ionawr, 2025
Sesiwn 1: 
6 wythnos i 12 mis (10:30 - 11:30)
 Sesiwn 2: 
12 mis+ (12:00 - 13:00)
Ebost: [email protected] Ebost: [email protected]

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd, CF5 6XB

Mewn car: Os ydych chi'n cyrraedd mewn car, mae ffi parcio o £7 y car. Mae mynediad i'r amgueddfa ei hun yn rhad ac am ddim ac ar ôl y sesiwn, mae croeso i chi archwilio'r amgueddfa wrth eich hamdden eich hun.

Ar y bws: Gwasanaeth Bws Caerdydd 32 – yn stopio ym maes parcio'r amgueddfa. Gwasanaeth First Cymru 320 – yn stopio ym mhentref Sain Ffagan

Ar y trên: Yr orsaf reilffordd agosaf yw Parc Waun-gron, sydd wedi'i leoli 2 filltir o Sain Ffagan. Mae gwasanaethau yn cael eu gweithredu gan Trafnidiaeth Cymru.Mae Gorsaf Parc Waun-gron wedi'i lleoli wrth ymyl y prif lwybr bysiau i Sain Ffagan.

Telerau ac Amodau

Drwy gymryd rhan yn yr hyfforddiant hwn, rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen a chytuno â Pholisi Preifatrwydd Blynyddoedd Cynnar CymruTelerau Defnyddio a Thelerau ac Amodau